Am beth mae'r gyfres bodlediadau?

Croeso i’n cyfres o bodlediadau ‘Archwilio Problemau Byd-eang’, lle bydd ein hacademyddion yn trafod sut mae eu hymchwil arloesol yn helpu i ymdrin ag amrywiaeth o heriau rhyngwladol.

Mae pynciau’n cynnwys arloesedd ym maes iechyd, newid yn yr hinsawdd, ynni glân a thechnolegau digidol sy’n canolbwyntio ar bobl.

Cliciwch ar y botymau isod i archwilio bob tymor ac yna gwrandewch a thanysgrifiwch i'r gyfres gan ddefnyddio'ch darparwr podlediadau dewisol.

Ewch i'n tudalen cymorth podlediad i ddysgu rhagor am sut i wrando.

Adolygiad Ar Gyfer Archwilio Problemau Byd-eang: Amrywiol a chraff

Rhai pynciau sy’n procio’r meddwl (amrediad amrywiol hyd yn oed ar draws y ddwy bennod rydw i wedi gwrando arnyn nhw hyd yn hyn) gan ystod o siaradwyr sy’n dda i’w gweld, rwy’n gobeithio y bydd hyn yn parhau. Dechrau cyfres hir a llwyddiannus gan Brifysgol Abertawe gobeithio!

Ein Gwesteiwr

Dyma westeiwr ein cyfres ‘Archwilio Problemau Byd-eang,’ Sam Blaxland, Cymrawd Ôl-ddoethurol yn Adran Hanes Prifysgol Abertawe.

Cafodd Sam ei eni a’i fagu yn Sir Benfro ac mae newydd ysgrifennu llyfr ar hanes Abertawe ers 1945. At hynny, mae Sam yn addysgu ar gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig ac yn ymddangos yn rheolaidd ar y teledu a’r radio’n trafod gwleidyddiaeth a materion cyhoeddus.