Gwrthdroi Sifft Iaith yng Nghymru

Rydym yn gwrthdroi shifft ieithyddol yng Nghymru

Rydym yn gwrthdroi shifft ieithyddol yng Nghymru

Yr Her

Dyma’r gwaith ymchwil cyntaf i effaith Canolfannau Cymraeg ar rwydweithiau cymdeithasol siaradwyr Cymraeg newydd a’u potensial fel sbardun i wrthdroi shifft ieithyddol mewn ardaloedd cymharol ddi-Gymraeg yng Nghymru. Mae Canolfannau Cymraeg yn ganolfannau amlbwrpas lle cyfunir dosbarthiadau i ddysgwyr â gweithgareddau cymdeithasol i siaradwyr Cymraeg yn y gymuned yn ogystal â chyfleusterau amrywiol eraill e.e., siopau, caffis neu fariau.

Mewn ardaloedd lle nad yw'r Gymraeg yn brif iaith y gymuned, gall oedolion sy’n dysgu Cymraeg ei chael yn anodd oherwydd diffyg cyfleoedd i ymarfer a theimlo’n rhan o rwydwaith cymdeithasol Cymraeg. Archwiliodd ein hymchwil effeithiolrwyd Canolfannau Cymraeg a ffactorau eraill yn glwm â gwella canlyniadau dysgu, gyda’r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a hyfedredd dysgwyr Cymraeg yng Nghymru.

Amcanion ein hymchwil oedd:

  • canfod y cyfleoedd sydd ar gael i gynnal rhwydweithiau cymdeithasol yn Gymraeg, ac a yw’r cyfleoedd hyn yn fwy neu’n gyfartal os yw dysgwyr yn astudio mewn Canolfan Gymraeg;
  • canfod ac argymell strategaethau y gellir eu gweithredu er mwyn ehangu rhwydweithiau cymdeithasol cyfrwng Cymraeg y siaradwyr Cymraeg newydd hyn;
  • canfod a oes patrymau neu strategaethau yn bodoli mewn cymunedau ieithyddol eraill y gellid eu haddasu i’r ymdrechion i integreiddio oedolion sydd wedi dysgu Cymraeg.

Y Dull

Yn 2009, llwyddodd Steve Morris o Brifysgol Abertawe ennill grant ymchwil o £35,000 gan Lywodraeth Cymru i edrych ar rwydweithiau cymdeithasol oedolion sy’n dysgu Cymraeg ac yn benodol, sut y gallai’r dysgwyr hyn gynyddu eu cysylltiad â’r iaith mewn ardaloedd o Gymru lle nad yw'r Gymraeg yn brif iaith y gymuned.

Gan weithio gyda’i gydweithiwr Heini Gruffudd, fe gysyllton nhw â thua thraean o’r holl oedolion oedd yn dysgu’r Gymraeg ar gyrsiau lefel uwch yn 2009 – 2010 i weld a yw dysgu mewn Canolfan Gymraeg yn effeithio ar y rhwydweithiau cymdeithasol posib sydd ar gael i oedolion. Gwnaethant hyn drwy gymharu’r rhwydweithiau cymdeithasol sydd ar gael i oedolion oedd wedi astudio mewn Canolfan Gymraeg â’r rhai nad oeddent wedi cael y cyfle.

Yn rhyngwladol, mae’r gwaith hwn wedi’i drafod yng nghyd-destun rhwydwaith COST European New Speakers y mae Steve Morris a Dr Gwennan Higham yn cymryd rhan weithredol ynddo.

Yr Effaith

Mae ein hymchwil wedi chwarae rhan hollbwysig wrth ddylanwadu ar bolisi llywodraeth Cymru i hybu’r defnydd o’r Gymraeg, cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a hyfedredd dysgwyr Cymraeg yng Nghymru, gan greu 10 Canolfan Gymraeg newydd drwy gymorth ariannol o £2,250,000 (gweler datganiad polisi 2014 ‘Bwrw Ymlaen’).

Mae'r Canolfannau Cymraeg newydd yn darparu cyfleoedd amhrisiadwy yn eu cymunedau i ddysgwyr gyplysu eu cymhellion integreiddiol â chyfleoedd i ddefnyddio'r iaith ac ymuno mewn rhwydweithiau cymdeithasol Cymraeg na fyddent fel arall yn hawdd eu cyrraedd. Mae grwpiau’n elwa o allu ehangu’r peuoedd lle maent yn defnyddio’r Gymraeg a thrwy gael gofod i ehangu ac atgyfnerthu eu rhwydweithiau cymdeithasol yn yr iaith.

Mae Academi Hywel Teifi (Prifysgol Abertawe) wedi agor Canolfan Gymraeg ym Mhontardawe o’r enw Tŷ’r Gwrhyd. Ynghyd â Thŷ Tawe, y Ganolfan Gymraeg yn Abertawe, mae’r canolfannau hyn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn rhaglen eang o weithgareddau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd i gael profiad gwaith mewn amrywiaeth o feysydd.

Mae adroddiadau a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru gan y canolfannau sydd newydd eu sefydlu yn dangos, yn ogystal ag oedolion sy’n siarad Cymraeg newydd, fod y buddiolwyr yn cynnwys teuluoedd, plant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae creu’r canolfannau hefyd wedi arwain at hybu a chryfhau’r iaith o fewn eu cymunedau ehangach.

Mae carfanau pwyso iaith gan gynnwys Dyfodol i’r Iaith hefyd wedi cydnabod arwyddocâd y berthynas hon rhwng iaith a chymuned, gan ymrwymo yn eu maniffesto i “greu rhwydwaith o Ganolfannau Cymraeg ar draws Cymru”, gan fod y canolfannau yn cynrychioli “canolbwyntiau i fywyd Cymraeg eu hardaloedd”.

Mae Canolfannau Cymraeg yn cael effaith economaidd sylweddol yn eu hardaloedd lleol. I roi un enghraifft, dangosodd adroddiad Gwerthusiad 2015 o Effaith Economaidd a Diwylliannol Canolfan Soar fod y ganolfan hon ym Merthyr Tudful werth tua £608,000 i’r economi leol dros flwyddyn, yn seiliedig ar “y cylchoedd gwariant uniongyrchol, anuniongyrchol a dilynol a achosir gan weithgareddau'r Ganolfan”.

Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe