Mae Alun Thomas yn fyfyriwr PhD sy’n gweithio ar draethawd hir â’r teitl 'Developing Welsh Law to Protect the Liberty of the Mentally Ill'. Mae ei draethawd hir yn archwilio sut gallai deddfwriaeth sy’n neilltuol i Gymru roi hawliau ychwanegol i gleifion ac felly iawndal i’r sawl a allai gael eu rhwystro pan fydd gwasanaethau wedi methu cyflawni’n unol â disgwyliadau rhesymol.
Mae e’n gweithio ar y traethawd hir hwn ar sail ran-amser ochr yn ochr â’i swydd yn Brif Weithredwr Hafal, y brif elusen dros bobl â salwch meddwl difrifol a’u gofalwyr yng Nghymru. Sefydliad a arweinir gan aelodau yw Hafal, sy’n cefnogi dros 1,500 o bobl bob dydd ledled pob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae Alun yn Nyrs Cyffredinol Cofrestredig sydd wedi gweithio yn y GIG, wedi datblygu gwasanaeth adsefydlu niwrolegol yn y sector gofal iechyd preifat, a bellach gyda Hafal mae wedi arwain y sefydliad wrth ddatblygu cyfleuster i gleifion mewnol sydd wedi’i arwain gan ddefnyddwyr a’i gynnal gan yr elusen.