LLEISIAU BACH LITTLE VOICES

Lleisiau Bach Little Voices:

  • Dyna enw'r tîm a fu'n cydweithio rhwng 2012 a 2020 i rymuso plant fel ymchwilwyr ac eiriolwyr dros newid yng Nghymru
  • Hwn hefyd yw'r enw a roddwyd i dair rhaglen olynol a gefnogwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:

           - Lleisiau Bach Dewisiadau Mawr 2012 -2014

           - Lleisiau Bach yn Galw Allan 2014 - 2017

           - Lleisiau Bach yn Cael eu Clywed 2017 - 2020

Mae'r tîm yn defnyddio methodoleg Plant fel Ymchwilwyr sy'n cynnwys dwy nodwedd graidd:

  • Mae’n defnyddio CCUHP fel fframwaith i lywio ei faes pwnc a sut mae'r gwaith yn cael ei wneud, gan gynnwys ei ymagwedd foesegol.
  • Mae'n galluogi plant i ddewis cwestiynau i ymchwilio iddynt, y dulliau ymchwilio a'r llwybrau i effaith, gan eu cysylltu ag arbenigwyr a llunwyr penderfyniad sy'n gallu helpu i gyflawni newid ar y cyd.