SAUM yw Sefydliad Astudiaethau Uwch Prifysgol Abertawe. Fel mudiad sy’n ymestyn ei gyrhaeddiad trwy’r Brifysgol, rydym yn llawn diben ac yn canolbwyntio ar waith ymchwil trawsddisgyblaethol o’r radd flaenaf sy’n cyflwyno gwelliannau gweddnewidiol a gwirioneddol i fywyd ac i ddealltwriaeth.

Lansiwyd y Sefydliad gan Brif Weinidog Cymru ym mis Chwefror 2021, mae SAUM yn chwilio am gynigion a fydd yn gwella’r ffordd rydym yn byw ac yn meddwl - rydym yn chwilio am waith a fydd yn diffinio’r “anghyffredin newydd”.

Dylai’r cynigion ymdrin ag un neu fwy o’r meysydd canlynol:

  • Dyfodol Cadarn
  • Dyfodol Teg
  • Dyfodol Cynaliadwy
  • Dyfodol Diwydiannol Arloesol
  • Dyfodol y De Byd-eang a’r Gogledd Byd-eang

Fodd bynnag, ni ddylai hyn gyfyngu arnoch. Os bydd eich cynnig yn ymateb i ddiben creiddiol yr alwad hon i ddod o hyd i’r “anghyffredin newydd”, ac os bydd yn drawsddisgyblaethol ei natur, yn uchelgeisiol ac yn fentrus, cofiwch ymgeisio.