Cyflwyniad

Cafodd Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan – SAUM – ei lansio gan Brif Weinidog Cymru ar Chwefror 26ain 2021. Ni yw’r Sefydliad Astudiaethau Uwch cyntaf yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar ymchwil trawsnewidiol rhyngddisgyblaethol. Mae SAUM yn datblygu cymuned ffyniannus ar raddfa fawr – mudiad sy’n gosod y nod o ymateb ar fyrder i gyfleoedd a heriau mwyaf tyngedfennol y byd. Mae’n tynnu pobl ynghyd o bob disgyblaeth i ddarganfod ac arloesi gyda phrosesau, deunyddiau, technolegau, polisïau ac arferion a fydd yn creu byd sy’n fwy cynaliadwy, cyfiawn, llesol, llawen a gobeithiol.

SAUM logo

Bydd SAUM yn helpu i yrru’r Brifysgol yn ei blaen, gan wasanaethu’r ddinas, y rhanbarth, Cymru a’r byd gydag ymchwil a menter o’r radd flaenaf. Mae hefyd yn rhyw fath o wersyll cychwynnol lle daw grwpiau ynghyd i gael eu hyfforddi, eu cymell a’u hannog i godi eu golygon at y copaon uchaf o ran deallusrwydd ac effaith, gan ein gwneud ni’n barod i ddenu’r cyllid allanol sylweddol sydd ei angen er mwyn bod yn gyfrwng effeithiol i greu newid.

Mae SAUM wedi’i enwi ar ôl y diweddar Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru a Changhellor Prifysgol Abertawe y mae ei angerdd dros Gymru a’i lle yn y byd yn parhau i’n hysbrydoli.

Prosiectau Sylfaenol Gwersyll

Basecamp

Prosiectau Copa

Summit

Newyddion

  • Ebrill 2023 - Cais MASI am Gynigion 2023/24 - dyddiad cau 22 Mehefin
  • Chwefror 2023 - Galwad am Ddigwiddiadau Pennu Agendau
  • Mai 2022 - SAUM Digwyddiadau Rhwydweithio a Siapio Cynnig
  • Ebrill 2022 - SAUM Galwad am Gynigion 22/23 - dyddiad cau 16 Mehefin 
  • Ionawr 2022 - Digwyddiadau Gosod Agenda SAUM - Galwad an Gynigon. Mwy o wybodaeth am sut i wneud cais yma
  • Medi 2022 - Rhagfyr 2022 Aethpwyd ymlaen â gweithgareddau Basecamp, Uwchgynhadledd a Chymrawd Ymweld
  • Ebrill-Gorffennaf 2022 Trefnodd SAUM amrywiaeth o weithdai ar heriau pwysig y byd gan gynnwys newid yn yr hinsawdd ac adfer pandemig

Cwrdd â'r Tîm