BLWYDDYN 12 – CAMU YMLAEN I BRIFYSGOL ABERTAWE#
Mae'r broses cyflwyno cais ar gyfer rhaglen Camu i Fyny i Brifysgol Abertawe 2025 bellach ar agor. Cliciwch yma i gyflwyno cais.
Bydd y broses cyflwyno cais yn cau am hanner nos ar 16 Chwefror 2025.
Beth yw Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe?
Cyfres o ddigwyddiadau undydd a digwyddiad preswyl byr ym Mhrifysgol Abertawe yw’r rhaglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe. Mae ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 12 sy’n cwblhau blwyddyn gyntaf cymhwyster lefel 3 mewn ysgol neu goleg yn ne-orllewin Cymru (Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin) er mwyn iddynt gael profiad o fywyd mewn prifysgol. Ar ôl iddynt gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu hawlio gostyngiad ym mhwyntiau tariff os ydynt yn ymgeisio am gyrsiau israddedig ym Mhrifysgol Abertawe.
Pwy sy’n gallu dod?
Rhaid i fyfyrwyr unigol wneud cais am le ar Raglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe. Mae Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 12 a myfyrwyr lefel 3 yn eu blwyddyn gyntaf mewn ysgolion a cholegau yn ne-orllewin Cymru sydd â’r gallu i lwyddo ond, oherwydd amgylchiadau teuluol, personol neu eraill, yn wynebu rhwystrau a allai eu hatal rhag symud ymlaen i addysg uwch (gweler y pecyn gwneud cais am fanylion pellach).
Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i Ddigwyddiad Croeso ym Mhrifysgol Abertawe. Yna, bydd myfyrwyr yn gallu dod i gyfres o ddiwrnodau blas ar bwnc, diwrnod lles, a diwrnodau sgiliau astudio. Cynhelir y digwyddiadau hyn o fis Mawrth tan fis Mehefin yn ystod Blwyddyn 12 a’r uchafbwynt yw profiad preswyl a gynhelir ym mis Gorffennaf. Caiff gweithgareddau/digwyddiadau dewisol eu cynnig i fyfyrwyr pan fyddant ym Mlwyddyn 13, megis ffug gyfweliadau er enghraifft.
Dysgwch fwy am sut mae Tîm Camu Ymlaen yn gofalu am yr wybodaeth y maent yn ei chasglu, sut y maent yn ei storio a sut y maent yn ymdrin â hi.