Cymerwch ran mewn digwyddiadau, gweithgareddau a mentrau â chynaliadwyedd.
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol gymryd rhan yn ein gwaith i wella arferion ar draws ein campysau ac i barhau i arwain y ffordd o ran datblygu dyfodol mwy cynaliadwy i bawb. Rydym yn cynnal gweithgorau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn ar amrywiaeth o bynciau cynaliadwyedd, gan gynnwys rheoli carbon, Masnach Deg a rheoli amgylcheddol a gwastraff. Os hoffech fod yn rhan o lywio cynaliadwyedd yn y Brifysgol, cofrestrwch drwy’r ddolen isod.
Cewch y cyfle perffaith i gwrdd â phobl eraill, gwella eich cyflogadwyedd a meithrin eich dealltwriaeth o’r materion llosg cyfredol trwy ddod i un o’n digwyddiadau.
Rydyn ni’n dilyn holl gyngor a chanllawiau perthnasol y llywodraeth yn ystod ein digwyddiadau ar y campws a gofynnir i chi wneud yr un peth. Mae cyngor a chanllawiau pellach ar gael ar ein tudalen Eventbrite. Parhewch i ddarllen er mwyn dysgu sut gallwch chi gymryd rhan a chofrestru ar gyfer digwyddiadau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir isod, cysylltwch â ni.