Tâl ar-lein drwy Western Union

Mae modd talu'ch ffioedd ar-lein yma: WU Global Pay

Mae'r defnydd o'r platfform yn caniatáu i chi dalu eich ffioedd drwy ddefnyddio Cerdyn Credyd, Cerdyn Debyd neu Drosglwyddiad Banc yn yr arian cyfred o'ch dewis fel nad oes angen i chi boeni am gyfraddau cyfnewid neu ffioedd banc. I wneud taliad dilynwch y ddolen uchod. Am ragor o wybodaeth ar sut mae'r gwasanaeth yn gweithio, gwyliwch y fideo isod.

Sylwer bod 'Y Coleg, Prifysgol Abertawe' yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Navitas sy'n cynnig llwybrau academaidd sy'n arwain at raddau israddedig ac ôl-raddedig.    

I dalu eich ffioedd dysgu am gwrs Prifysgol Abertawe, ewch i Ffioedd a Chyllid i Fyfyrwyr.