VARSITY CYMRU DYCHWELYD
Mae'r dyddiad ar gyfer Varsity Cymru 2023 rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe wedi cael ei gadarnhau.
Bydd Caerdydd cynnal yr ŵyl chwaraeon sy'n para am wythnos eleni. Cynhelir y rhan fwyaf o'r cystadlaethau a'r gemau rygbi proffil uchel ddydd Mercher 26 Ebrill.
Dechreuodd Varsity Cymru gyda gêm rygbi rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd ym 1997, ond mae wedi tyfu bob blwyddyn ers hynny a dyma'r digwyddiad aml-gamp mwyaf i fyfyrwyr yn y DU bellach.
Drwy gydol yr ŵyl chwaraeon wythnos o hyd, bydd myfyrwyr yn cystadlu mewn mwy na 30 o gampau gwahanol ar gyfer gwobr uchel ei bri Tarian Varsity Cymru. Mae'r campau'n cynnwys: ffrisbi eithafol; nofio; golff; cleddyfaeth; sboncen; paffio; pêl-fasged; a hoci.
Bydd twrnamaint 2023 yn cael ei gynnal mewn lleoliadau ledled y ddinas, gan gynnwys Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru a Pharc yr Arfau yng Nghaerdydd. Bydd Abertawe'n gobeithio ennill y darian eleni, ar ôl i Gaerdydd ei hadennill yn Abertawe y llynedd.
Meddai Jonathan Davies, Swyddog Chwaraeon yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: "Ar ôl dychweliad hir ddisgwyliedig Varsity y llynedd ac wrth i’r digwyddiad ddathlu 25 mlynedd, mae'r cyffro ar gyfer Varsity'n cynyddu. Eleni, rydym wedi bod yn ffodus i ychwanegu maes enwog Clwb Criced Morgannwg - Gerddi Soffia - at ein rhestr o leoliadau nodedig yn ogystal â dychwelyd i Barc yr Arfau am gemau rygbi drwy gydol y dydd.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb yn ein timau yn Undebau Myfyrwyr Caerdydd ac Abertawe a'n prifysgolion sydd wedi helpu i hwyluso cynllunio a chynnal y digwyddiad hwn. Gyda thros 800 o athletwyr yn cystadlu ar draws Caerdydd yn rhai o'r lleoliadau chwaraeon enwocaf yng Nghymru, mae'n amlwg pam mai hwn yw pinacl chwaraeon myfyrwyr Cymru.
Ar gyfer digwyddiad o'r fath, does gen i ddim amheuaeth y bydd y Fyddin Werdd a Gwyn yn dod â sŵn, awyrgylch a chefnogaeth i'n cystadleuwyr. Bydd y diwrnod arbennig hwn yn aros yn hir yn y cof a phan fyddwch yn edrych yn ôl ar eich amser yn Abertawe, boed yn gystadleuwr neu'n gefnogwr, bydd y diwrnod hwn yn atgof arbennig. Ewch â balchder Abertawe gyda chi a dewch â'r cwpan adref!"