Cynghreiriau Cymdeithasol
Mae rhaglen Cynghreiriau Cymdeithasol Chwaraeon Abertawe yn cynnig fformat cynghrair hwyliog, rheolaidd a strwythuredig ar gyfer nifer o wahanol chwaraeon. Mae gennym gynghreiriau amrywiol sydd ar gael yn wythnosol, a thwrnameintiau, gwyliau, a digwyddiadau hwyliog a chystadleuol, sy'n rhedeg drwy gydol y flwyddyn.
Mae ein cynghreiriau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff gymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol naill ai ar gampysau’r Brifysgol neu'n agos atynt mewn amgylchedd trefnus, cyfeillgar, a fforddiadwy sy'n agored i bob lefel gallu. Mae ein cynghreiriau cymdeithasol yn ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd a phresennol gydag opsiynau i ymuno fel unigolyn neu fel grŵp.
Mae nifer o'n clybiau'n cynnal cynghreiriau cymdeithasol rheolaidd, gan gynnwys:
- Pêl-droed o fewn waliau i ddynion, 11-bob-ochr
- Pêl-rwyd i ferched
- Pêl-droed 5-bob-ochr cymysg, ar y Bae
- Pêl-droed 5-bob-ochr i ferched, ar y Bae
Os na allwch chwarae, gallwch gymryd rhan yn ein rhaglenni ac ychwanegu at eich CV drwy weinyddu neu fod yn rhan o reoli digwyddiadau. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb - callum.pink@swansea.ac.uk
Rydym wrthi'n datblygu ein rhaglen cynghreiriau cymdeithasol ac yn gobeithio cynnig rhagor o gyfleoedd i chi'n fuan, felly cofiwch gadw llygad...
Yn y cyfamser, ewch draw i dudalennau'r clybiau ar wefan Undeb y Myfyrwyr i gael gwybod beth sydd ar gael.