Ynglŷn â Coffeeopolis
Wedi’i leoli yng nghanol yr Adeilad Peirianneg Canolog, mae hwn yn lle perffaith i gael gafael ar eich hoff ddanteithion 'Change Please'. Nod Change Please yw mynd i’r afael â’n hargyfwng digartrefedd trwy roi atebion cadarnhaol syml i chi a’ch cymuned. Rydych chi’n prynu’r coffi; rydym ni’n helpu pobl yn ôl i gartrefi a chyflogaeth.
Rydym ni hefyd yn darparu ein bargen pryd Leaf & Loaf yma am £4.25, felly beth am alw heibio a phrynu brechdan, byrbryd a diod i ginio tra’ch bod chi yno!