Campws Park Singleton
Blas
Canolbwynt ar lawr gwaelod Tŷ Fulton yw Blas, sy’n cynnig taith i bedwar ban byd bob dydd gydag opsiynau arbennig. Mae byrgyrs a thatws pob ar gael bob dydd yn ystod oriau cinio. Mae brecwast ar gael bob dydd tan 11:30.
Y Gegin
Ar lawr cyntaf Tŷ Fulton, ceir opsiynau rhyngwladol gwahanol bob dydd, gan gynnwys ‘Wok y Dydd’, ‘Cyrri’r Dydd’ a ‘Rhost y Dydd’.
Caffi Callaghan
Wedi’i swatio yn islawr Adeilad James Callaghan, dyma’r lle delfrydol i mwynhau â’ch hoff gynnyrch Starbucks™. Rydym ni hefyd yn cynnig brechdanau, paninis ac amrywiaeth o ddanteithion a phwdins moethus.
Caffi Glas
Ewch am dro i orllewin pell y campws, a byddwch yn dod ar draws Caffi Glas, sef perl cudd ar lawr cyntaf Adeilad ILS. Mae ganddo awyrgylch golau ac eang ac mae’n cynnig eich holl ffefrynnau gan Starbucks™. Rydych chi ar eich colled os nad ydych chi wedi ymweld â Caffi Glas eto.
Ac os nad ydych chi’n yfed coffi, rydym ni’n cynnig amrywiaeth wych o gacennau a brechdanau arbenigol.
Taliesin
Efallai y bydd yn well i’r rhai sy’n dwlu ar ddiwylliant ymlacio mewn steil ym Mar Taliesin.
Mae’r bar wedi’i leoli ar lawr cyntaf Theatr Taliesin ac rydym yn cynnig pizzas blasus a bar salad y gellir ei deilwra.
Hoffi Coffi
Yn Hoffi Coffi, mae’r enw’n dweud y cyfan. Yng nghyntedd llyfrgell Campws Singleton, dyma drysorfa i’r rhai sy’n dwlu ar eu coffi. Gan gynnig eich hoff goffi COSTA™ yn ogystal ag ystod o ddiodydd ysgafn, byrbrydau a phrydau ysgafn.
Muchos Burritos
Ymunwch â’r ffiesta gyda burritos, churros a nachos y gallwch eu teilwra at eich dant chi.
Gallwch ddewis llenwi eich dewis gyda chyw iâ, porc, rhywbeth llysfwytaol neu lenwad y dydd.
Campws y Bae
The Core
Ar agor ar gyfer The Kitchen Click & Collect ac un cownter bwyd poeth yn unig. Y Craidd fel arfer yw'r prif le bwyta gyda thair stondin fwyd yn caniatáu ar gyfer amrywiaeth o ddewis.
Cluck. Mae ein ychwanegiad diweddaraf, yn cynnig dewis o suaces ac ochrau cyw iâr rotisserie.
Mae Fusion yn cynnig blas o fwyd rhyngwladol gyda Wok a Chyri’r dydd.
Cegin yw lle byddwch chi’n dod o hyd i fwydydd gwahanol bob dydd, gan gynnwys ‘Blas o’r Eidal’, ‘Diwrnod Pysgod a Sglodion’ a ‘Blas o Brydain’. Mae brecwast ar gael bob dydd tan 11:30.
Coffeeopolis
Bydd ffans Starbucks™ yn dwlu ar Coffeopolis. Mae wedi’i leoli yn libart Adeilad Canolog Peirianneg, tuag ymyl dwyreiniol y campws ac mae Coffeopolis yn lle gwych i eistedd a mwynhau’r awyrgylch wrth yfed latte Starbucks neu wrth fwynhau panini a baratowyd yn ffres.
COSTA™ yn y Coleg
Wedi’i leoli yng nghefn y Coleg, dyma’r lle delfrydol i mwynhau â’ch hoff gynnyrch COSTA™. Mae danteithion, brechdanau, a diod feddal hefyd ar gael.
GH Café
Ar lawr cyntaf y Neuadd Fawr, gyda golygfeydd trawiadol ar draws Bae Abertawe, dyma le gwych i ymlacio gyda ffrindiau neu westeion.
Gallwch fwynhau pizzas bara gwastad, saladau ffres a brechdanau swmpus. Dewch i fwynhau diod o blith ein diodydd poeth ac oer.