Ymchwil Abertawe yn ystod argyfwng Covid-19

Rydym yn gwneud popeth y gallwn i roi ein harbenigedd ar waith a helpu i ddarparu atebion yn ystod argyfwng Covid-19. Mae aelodau o staff ym mhob rhan o'r Brifysgol yn dod o hyd i ffyrdd arloesol o wneud y mwyaf o'n cyfleusterau, gan archwilio sut i leihau effeithiau corfforol y feirws, a gweithio, er enghraifft, gyda chydweithwyr ledled Cymru a'r consortiwm newydd ei sefydlu, sef SWARM (Consortiwm Gweithgynhyrchu Ychwanegion a Chyflym De Cymru), sy'n cydlynu gallu diwydiant, gweithgynhyrchu a dylunio i sicrhau bod cyfarpar diogelu personol allweddol yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen.

Rydym hefyd wedi defnyddio argraffyddion 3D o'r radd flaenaf er mwyn cynhyrchu feisorau ac amddiffynwyr wyneb, ac rydym wedi newid un o'n labordai solar dros dro i gynhyrchu 5,000 litr o hylif diheintio dwylo bob wythnos. Defnyddir yr hylif hwn gan y GIG yn lleol ac fe'i defnyddir bellach hefyd gan weithwyr tai ar y rheng flaen, gwasanaethau cymorth i'r digartref a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt, y mae llawer ohonynt yn agored i niwed.

Rydym wedi ymateb yn gyflym i anghenion brys ein gwasanaethau brys. Er enghraifft, drwy ddyfeisgarwch grŵp o'n myfyrwyr, mae triniaeth newydd wedi cael ei datblygu i ryddhau nwy'n sydyn i ddiheintio ambiwlansys, a allai gael gwared ar Covid-19 o’r arwynebau a’r awyr mewn llai nag ugain munud, sef hanner yr amser arferol, heb angen i berson wneud unrhyw waith glanhau. Os bydd y profion yn llwyddiannus, gellid cyflwyno'r system i wasanaethau golau glas eraill, trafnidiaeth gyhoeddus a wardiau ysbyty.

Mae gennym ymagwedd amlddisgyblaeth ac rydym hefyd yn archwilio effaith seicolegol a chymdeithasol y pandemig, gan ganolbwyntio ar anghenion y bobl yr effeithir arnynt a rhoi strwythurau cymorth ar waith, yn ogystal ag ystyried effeithiau hirdymor y mesurau cadw pellter cymdeithasol ar iechyd meddwl.

Helpwch ni yn y frwydr yn erbyn Covid-19 a chefnogwch y rhai mewn angen

Rhowch rodd

Two hands holding a black heart