Rydym yn llunio ein dulliau cyflwyno er mwyn sicrhau y bydd yr holl fyfyrwyr a fydd yn ymuno â ni yn ystod 2021/22 yn cael eu haddysgu, yn gallu astudio ac yn cael profiad o fywyd myfyrwyr mewn amgylchedd diogel a chroesawgar. Fel y byddwch yn ei werthfawrogi, mae'n amhosibl rhoi gwybodaeth fanwl gywir gynifer o fisoedd ymlaen llaw mewn sefyllfa sy'n newid, ond rydym yn eich sicrhau:
- Y caiff pob rhaglen astudio ei chyflwyno'n ddiogel. Os bydd yn briodol, bydd hyn yn golygu cyfuno addysgu ar-lein ag addysgu wyneb yn wyneb.
- Os bydd angen er diogelwch, cyflwynir addysgu wyneb yn wyneb mewn fformat cymysg gan osgoi darlithoedd mawr.
- Bydd llety'r Brifysgol ar gael fel arfer gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol priodol ar waith. Am ragor o wybodaeth am lety yn Abertawe, ewch i'r tudalennau gwe ynghylch Llety.
- Byddwn yn cynorthwyo ac yn cefnogi myfyrwyr rhyngwladol, os bydd rheolaethau cwarantin ar waith ar yr adeg pan fyddant yn cyrraedd.
Byddwn yn parhau i roi diweddariadau rheolaidd i staff, myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr.