
Yn y llun: Lando Norris (trydydd o'r dde) yn labordai A-STEM Prifysgol Abertawe. Aelodau'r tîm yn y llun (o'r dde i'r chwith): Dr Mark Waldron (Athro Cysylltiol, Prifysgol Abertawe), Jon Malvern (Cyfarwyddwr, PAP), Joe Page (Cydymaith Ymchwil, PACE-MAP), Christian Vassallo (Arweinydd PACE-MAP), Mylène Vonderscher (Cydweithredwr Ymchwil Université Savoie Mont Blanc), Bec Dietzig (Uwch-dechnegydd Labordy, Prifysgol Abertawe).
Gyda 24 o rasys mewn 21 o wledydd ar bum cyfandir gwahanol, mae Fformiwla 1 yn gamp sy’n werth biliynau o bunnoedd gan ddenu tua 750 miliwn o gefnogwyr. Am y rhesymau hyn, dyma gyfres chwaraeon mwyaf poblogaidd y byd.
Ychydig iawn sy'n gwahanu enillydd ras a’r ail le, ac roedd hyn yn amlwg drwy'r brwydrau ffyrnig am y bencampwriaeth rhwng Ferrari a McLaren yn ystod tymor 2024.
Yn aml, eiliadau yn unig sy'n eu gwahanu.
Dyna pam y dewisodd cystadleuydd am bencampwriaeth Fformiwla 1, Lando Noris, ganolfan ymchwil Chwaraeon, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth Cymhwysol (A-STEM) Prifysgol Abertawe i ymgymryd â chyfres o brofion perfformiad trylwyr ar gyfer athletwr chwaraeon modur.
Cafodd hyn ei arwain gan dîm ymchwil PACE-MAP Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth uniongyrchol â Pioneered Athlete Performance (PAP), sy'n cydweithio i wella safonau arfer gorau ym maes gwyddor perfformiad dynol mewn chwaraeon modur.
Fel partner gwyddonol swyddogol PAP, mae Prifysgol Abertawe'n un o'r sefydliadau cyntaf yn fyd-eang i gynnal ymchwil ddynol systematig ar lefelau uchaf chwaraeon modur Fformiwla elît ac i gyflogi cydymaith ymchwil amser llawn yn benodol at y diben hwn. Yn benodol, mae'r bartneriaeth hon a ariennir gan y diwydiant yn ymchwilio i welliant ffisiolegol, athletaidd a gwybyddol ar gyfer perfformiad athletwyr chwaraeon modur (PACE-MAP).
Mae tîm PACE-MAP yn cynnwys grŵp amlddisgyblaethol o ymchwilwyr ac ymarferwyr chwaraeon modur blaenllaw yn y diwydiant sy'n arbenigo yn nisgyblaethau cymhwysol ffisioleg, biomecaneg, maeth a thermoreoleiddio (straen gwres).
Ar y cyd â PAP, sy'n arbenigo mewn paratoi athletwyr chwaraeon modur, o rasys cert iau i Fformiwla 1, mae'r cydweithrediad unigryw hwn yn ceisio arloesi ym maes paratoi perfformiad gyrwyr/athletwyr drwy ymchwil hydredol i ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad mewn chwaraeon modur.
Drwy gydol diwrnod llym o asesiadau a barodd 12 awr, cafodd Lando Norris ei wthio i derfynau ei alluoedd corfforol a meddyliol o flaen criw o Netflix a oedd yn ffilmio cyfres ddiweddaraf Drive to Survive sydd wedi denu cynulleidfa fyd-eang o tua 7 miliwn yn y gorffennol.
Fideo - Lando Norris yn labordai Prifysgol Abertawe
Darparodd yr asesiadau hyn ddarlun '360 o raddau' o alluoedd perfformiad corfforol Lando ac roedd yr amcanion yn glir: i) Cyn tymor 2025, asesu gallu Lando i wrthsefyll galwadau rasio a ii) llywio ei hyfforddiant a'i baratoadau mewn ffordd wrthrychol, gan ddefnyddio protocolau profi yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol gadarn.
Gan ddefnyddio ystod o gyfarpar o'r radd flaenaf, cynhaliwyd asesiadau yn labordai ffisioleg a biomecaneg A-STEM, er enghraifft:
- sgan amsugniametreg pelydrau X egni-deuol (DXA);
- dadansoddiad cardio-pwlmonaidd fesul anadl;
- siambr wres amgylcheddol a adeiladwyd at y diben;
- creu proffil cryfder a lludded y gwddf a ddarparodd wybodaeth am allu Lando i wrthsefyll y grymoedd G a geir wrth frecio a chornelu ar gyflymderau dros 200 mya.
Meddai Jon Malvern, sefydlwr a chyfarwyddwr Pioneered Athlete Performance (PAP), sydd wedi bod yn rhoi cymorth perfformiad i Lando ers iddo fod yn 13 oed:
"Mae heddiw yn dangos yn union pam dewisodd PAP weithio gyda chanolfan ymchwil A-STEM Prifysgol Abertawe ac atgyfnerthu ein partneriaeth drwy grŵp ymchwil PACE-MAP. Fy rheswm i dros fuddsoddi ym Mhrifysgol Abertawe a PACE-MAP yw'r cyfuniad unigryw o ymchwilwyr ac ymarferwyr o'r radd flaenaf sy'n cynnig gwerth a dealltwriaeth heb eu hail.
Rydyn ni eisoes wedi gwella ein dealltwriaeth o ffisioleg gyrwyr elît, wedi archwilio'r dulliau optimaidd o baratoi ar gyfer galwadau rasio ac wedi meithrin gwybodaeth am roi strategaethau rheoli fel hydradu a straen gwres ar waith ar ddiwrnod y ras.
Mae cael tîm ymchwil amlddisgyblaethol sy'n meddwl yn ddwfn oddi ar y trac rasio yn fy ngalluogi i a holl ymarferwyr PAP i wneud penderfyniadau mwy gwybodus ar baratoi perfformiad gyrwyr yn y maes. Yn ei dro, mae hyn yn galluogi ein gyrwyr i wrthsefyll yr amgylchedd rasio heriol yn well a sicrhau nad yw'n eu rhwystro rhag manteisio i'r eithaf ar eu galluoedd gyrru."
Meddai Christian Vassallo, darlithydd gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff ym Mhrifysgol Abertawe, sydd hefyd yn arwain prosiect ymchwil PACE-MAP:
"Roedd hi'n fraint gan dîm ymchwil PACE-MAP groesawu Lando Norris a Jon Malvern i Brifysgol Abertawe ac i'n labordai A-STEM.
Mae'r garreg filltir hon yn adlewyrchu ein huchelgais i arloesi ym maes safonau paratoi gyrwyr/athletwyr mewn chwaraeon modur. Mae ein cydweithrediad â PAP yn datblygu, mae'n bartneriaeth ddwyochrog sy'n seiliedig ar ein hethos a'n hymrwymid cyffredin i anghenion datblygu tymor hir gyrwyr.
Drwy gydol diwrnod 12 awr, aeth Lando drwy gyfres trylwyr o brofion a ddewiswyd yn ofalus gan dîm ymchwil PACE-MAP. Dangosodd Lando y gallu i wrthsefyll anghysur eithafol â chryfder corfforol a meddyliol neilltuol, sy'n cydweddu â 'meddylfryd pencampwr'. Gwnaeth ei ymdrechion argraff anhygoel arnon ni.
Mae ein partneriaeth ffyniannus â PAP eisoes wedi arwain at gyflogi dau fyfyriwr ôl-raddedig o Brifysgol Abertawe, yn ogystal â chyfleoedd lleoliad gwaith ar gyfer myfyrwyr MSc presennol. Rydyn ni bellach yn awyddus i fanteisio ar y momentwm hwn a fydd, gobeithiwn, yn arwain at lawer o gerrig milltir rhwng PAP a'n grŵp PACE-MAP yn y dyfodol."
Gyda labordai a chyfarpar o'r radd flaenaf, lleolir adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe ar Gampws y Bae y Brifysgol ar ymyl y traeth. Nod eu rhaglenni gradd israddedig ac ôl-raddedig yw galluogi myfyrwyr i feithrin y sgiliau damcaniaethol ac ymarferol ategol sy'n angenrheidiol i weithio'n llwyddiannus ac yn effeithiol mewn chwaraeon perfformiad uchel.