Sgip i brif cynnwys Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Swyddfa'r Wasg
  3. Newyddion a Digwyddiadau
  4. Newyddion
  5. Newyddion Diweddaraf 2023
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored yn Abertawe
      Three students walking through Bay Campus in the Sun

      Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at eich crosawu chi!

      Ymweld â ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid I'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Ysgoloriaethau
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb Abertawe (SAI)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Swyddfa'r Wasg
  3. Newyddion a Digwyddiadau
  4. Newyddion
  5. Newyddion Diweddaraf 2023

Newyddion Diweddaraf 2023

Tudalennau cysylltiedig
  • Newyddion a Digwyddiadau
    • Newyddion
      • 2023
        • Mawrth
        • Chwefror
        • Ionawr
      • 2022
      • 2021
      • 2020
      • 2019
      • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
    • Ffocws Abertawe
  • Gwybodaeth i newyddiadurwyr
  • Gwybodaeth i Staff

Gweld ein Straeon diweddaraf

  • 31 Mawrth 2023
    Y cyflwynydd teledu Owain Wyn Evans yn annog cynulleidfa i fentro

    Mae Owain Wyn Evans, darlledwr ar y teledu a'r radio, wedi annog aelodau cynulleidfa yn Abertawe i fod yn driw iddynt hwy eu hunain a pheidio â bod yn rhy ofnus i fentro.

  • 31 Mawrth 2023
    “Asim Hafeez – O fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i Gyfarwyddwr yn y Swyddfa Gartref”: Gŵr Graddedig uchel ei fri'n rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar y Gwasanaeth Sifil

    Dychwelodd Asim Hafeez, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol, Strategaeth, Ymgysylltu a Datganoli yn y Swyddfa Gartref, i'w alma mater yn ddiweddar i rannu llwybr trawiadol ei yrfa yn y Gwasanaeth Sifil â myfyrwyr o Brifysgol Abertawe.

  • 30 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe yng Ngŵyl y Gelli 2023

    Mae gwyddoniaeth a chelf breuddwydio, yr argyfwng cyfergydion ym myd chwaraeon a theitl buddugol Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni ymysg y pynciau a fydd yn difyrru cynulleidfaoedd yng Ngŵyl y Gelli wrth iddi gael ei chynnal am y 36ed tro rhwng 25 Mai a 4 Mehefin.

  • 29 Mawrth 2023
    Astudiaeth arloesol o effaith technoleg ddigidol ar sgiliau cyfathrebu plant: gwahodd pobl i gyfrannu at arolwg ar-lein

    Mae ymchwilwyr prifysgol yn chwilio am gyfranogwyr i gwblhau arolwg ar-lein a fydd yn cynorthwyo gyda'r astudiaeth fanylaf hyd yn hyn o'r ffordd y mae cysylltiad beunyddiol babanod a phlant ifanc iawn â thechnolegau digidol yn dylanwadu ar sut maent yn siarad ac yn rhyngweithio ag eraill.

  • 29 Mawrth 2023
    Y pwmp sy'n gwneud dŵr llygredig yn ddiogel i'w yfed - syniad dyfeiswyr sy'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth fyd-eang

    Mae tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe sydd wedi dyfeisio pwmp sy'n gwneud dŵr afonydd llygredig yn ddiogel i'w yfed wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ddylunio fyd-eang, a gynhelir yn Nhecsas ym mis Ebrill.

  • 28 Mawrth 2023
    Tîm rhyngwladol yn defnyddio catalyddion naturiol i ddatblygu ffordd rad o gynhyrchu hydrogen gwyrdd

    Mae arbenigwyr o Abertawe a Grenoble wedi dod at ei gilydd er mwyn datblygu ffordd ymarferol o gynhyrchu hydrogen gwyrdd gan ddefnyddio catalyddion cynaliadwy.

  • 27 Mawrth 2023
    Ffilm yn amlygu gweithredu cymunedol ar adeg argyfwng o ran yr hinsawdd ac ecoleg

    Mae ffilm newydd sy'n amlygu sut mae grŵp cymunedol o ffrindiau a chymdogion yng Nghastell-nedd yn gweithio'n gadarnhaol i liniaru newid yn yr hinsawdd wedi cael ei dangos am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf i gyd-fynd ag Awr y Ddaear.

  • 23 Mawrth 2023
    Myfyriwr o Abertawe'n cydweithredu â'r Swyddfa Dywydd i helpu i ddatblygu model arwynebedd tir

    Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi cydweithredu â'r Swyddfa Dywydd i nodi sut gellir gwella un o'i modelau arwynebedd tir, gan hwyluso rhagamcanion mwy cywir o ryngweithiadau rhwng yr hinsawdd a llystyfiant yn y dyfodol.

  • 23 Mawrth 2023
    Llyfrau newydd yn dwyn y sylw ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2023

    Heddiw, cyhoeddir rhestr fer un o wobrau llenyddol mwyaf y byd sy'n dathlu llenorion ifanc - Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe - gan amlygu ehangder a dyfnder doniau ysgrifennu rhyngwladol newydd.

  • 22 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe'n sicrhau rhan o £40m o gyllid i hybu buddion ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol

    Mae Prifysgol Abertawe'n un o 32 sefydliad ymchwil ledled y DU a fydd yn elwa o gefnogaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) drwy ddyfarniad Cyfrif Cyflymu Effaith gwerth £1.25m dros bum mlynedd.

  • 22 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe'n parhau i wella ei safle yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei pherfformiad gorau erioed yn un o’r tablau pwysicaf sy’n rhestru prifysgolion y byd fesul pwnc am yr ail flwyddyn yn olynol.

  • 21 Mawrth 2023
    Rhaglen y Brifysgol yn derbyn cydnabyddiaeth gan Gymdeithas Gemeg America

    Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn cydnabyddiaeth fyd-eang am safon uchel yr addysg gemeg y mae'n ei chynnig.

  • 20 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe'n cyrraedd y rhestr fer am wobr recriwtio gyrfaoedd cynnar o fri

    Mae Rhaglen Cymorth i Raddedigion Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tîm gyrfaoedd a chyflogadwyedd addysg uwch y flwyddyn yng Ngwobrau Recriwtio Graddedigion Cenedlaethol targetjobs 2023.

  • 20 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer chwe chategori yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn chwe chategori yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni eleni.

  • 17 Mawrth 2023
    Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Amaeth a Thechnoleg Tokyo i arwain prosiect pwysig i ganfod clefyd Alzheimer yn gynnar

    Dyfarnwyd £1.3 miliwn i wyddonwyr o Sefydliad Arloesol Prifysgol Abertawe ym maes Deunyddiau, Prosesau a Thechnolegau Rhifyddol (IMPACT) ac o Japan, er mwyn datblygu pecyn newydd “profion pwynt gofal” sy’n gallu canfod biofarcwyr Clefyd Alzheimer.

  • 17 Mawrth 2023
    Astudiaeth newydd yn cyfrif cost amgylcheddol rheoli clymog

    Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi ystyried effaith amgylcheddol dulliau gwahanol o reoli clymog Japan yn y tymor hir.

  • 17 Mawrth 2023
    £1 miliwn ar gyfer prosiectau sy'n cynnwys arbenigwyr o Abertawe yn mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymhlith cyn-filwyr y lluoedd arfog

    Mae ymchwil i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymysg cyn-filwyr y lluoedd arfog wedi derbyn hwb sylweddol gyda thri dyfarniad, cyfanswm o £1 miliwn, ar gyfer prosiectau newydd yn y maes sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.

  • 16 Mawrth 2023
    Cydweithrediad yn sicrhau grant gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol i ddatblygu maes newydd sef Deunyddiau ar gyfer Gwytnwch Cymdeithasol

    Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn grant ymchwil gyda Sefydliad Technoleg Massachusetts a Phrifysgol Cornell noddir gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol ar gyfer project ymchwil aml-sefydliadol.

  • 16 Mawrth 2023
    Aelod o Staff Prifysgol Abertawe'n cael ei chydnabod mewn Gwobrau Prentis o Fri

    Mae Katie Harris o Brifysgol Abertawe wedi cael ei henwi'n Brentis Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad ar Yrfaoedd y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe eleni.

  • 15 Mawrth 2023
    Digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ITWales yn dathlu 20 mlynedd o Technocamps

    Cynhaliwyd digwyddiad ITWales, wedi’i drefnu gan Technocamps, i ddathlu menywod ym meysydd STEM ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Arena Abertawe.

  • 15 Mawrth 2023
    Academyddion o Brifysgol Abertawe'n datblygu'r celloedd solar perofsgit cyntaf yn y byd y gellir eu hargraffu'n llwyr o rolyn i rolyn

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cadarnhau dull inc carbon rhad y gellir ei ehangu sy'n gallu manteisio, am y tro cyntaf, ar botensial celloedd solar perofsgit i gael eu gweithgynhyrchu ar raddfa fawr.

  • 14 Mawrth 2023
    Llyfr newydd yn datgelu sut gall breuddwydion greu cysylltiadau rhwng pobl

    Bydd llyfr newydd gan Mark Blagrove, arbenigwr cwsg Prifysgol Abertawe, yn cael ei lansio yn ystod digwyddiad y gwerthwyd pob tocyn ar ei gyfer yn ddiweddarach yr wythnos hon.

  • 13 Mawrth 2023
    Effaith pandemig Covid-19 ar achosion o gyflyrau hirdymor yng Nghymru

    Mae astudiaeth cyswllt data poblogaeth sy’n defnyddio cofnodion iechyd gofal sylfaenol ac eilaidd yn datgelu bod llai o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o gyflyrau hirdymor na’r disgwyl yn 2020 a 2021.

  • 13 Mawrth 2023
    Cynhadledd sy'n amlygu sut y gall economy gylchol lywio dyfodol Cymru

    Cynhelir Cynhadledd Wanwyn Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC) ar ddydd Gwener, 24 Mawrth  yn Stadiwm Swansea.com. Mae'r gynhadledd yn wahoddiad agored i hyrwyddwyr amgylcheddol o bob rhan o Dde Cymru a thu hwnt i drafod sut y gall ymdrechion cynyddrannol sydd wedi'u cynllunio'n dda gael effaith sylweddol.

  • 10 Mawrth 2023
    Tîm ymchwil yn ymestyn cysylltiadau rhyngwladol i Awstralia

    Mae ymchwilwyr gartref ac oddi cartref wedi dod at ei gilydd ar gyfer cydweithrediad rhyngwladol newydd gyda'r nod yn y pen draw o wella gofal cleifion.

  • 9 Mawrth 2023
    Tîm rhyngwladol yn archwilio sut gallai seleniwm helpu i ymladd canser yr ofari

    Mae seleniwm yn ficro-faetholyn sy'n chwarae rôl hanfodol mewn iechyd dynol ond mae'n wenwynig mewn lefelau uchel. Fodd bynnag, dengys ymchwil fiofeddygol newydd fod gan seleniwm nodweddion gwrth-ganser pan gaiff ei ddefnyddio mewn dosau uchel.

  • 8 Mawrth 2023
    Ap yn ceisio cyflwyno artist i gynulleidfa newydd ac ehangach

    Mae ap newydd wedi cael ei lansio i geisio dathlu ac amlygu gwaith Gwen John, yr artist o Gymru.

  • 7 Mawrth 2023
    Arbenigwyr o'r Ganolfan Eifftaidd yn barod i ddatgelu hanes arteffactau hynafol

    Mae llu o henebion Eifftaidd wedi cyrraedd Abertawe cyn cael eu harddangos i'r cyhoedd a chael eu hastudio gan arbenigwyr o'r Brifysgol am y tro cyntaf.

  • 6 Mawrth 2023
    Ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n dangos y gall defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol am 15 munud yn llai bob dydd wella eich iechyd

    Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n dangos y gall defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol am 15 munud yn llai bob dydd wella iechyd cyffredinol a gweithrediad y system imiwnedd yn sylweddol a lleihau unigrwydd ac iselder.

  • 1 Mawrth 2023
    Y Brifysgol yn ennill cyllid i hybu sgiliau gweithgynhyrchu batris yng Nghymru

    Mae Prifysgol Abertawe'n barod i wneud cyfraniad allweddol at lywio gweithlu gweithgynhyrchu'r dyfodol yng Nghymru.

  • 1 Mawrth 2023
    Ymchwilwyr i ddatblygu technolegau clyfar cynaliadwy, wedi'u hunan-bweru ar gyfer y genhedlaeth hŷn

    Dyfarnwyd £740,000 i dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe i ddatblygu technolegau’r "Rhyngrwyd Pethau" digidol, cynaliadwy ac wedi'u hunan-bweru er mwyn mynd i'r afael â hygyrchedd ar gyfer pobl hŷn.

  • 24 Chwefror 2023
    Data olrhain yn dangos sut mae rhywogaethau adar môr yn mabwysiadu strategaethau gwahanol i ymdopi â stormydd eithafol

    Mae ymchwilwyr yn Sefydliad Ymddygiad Anifeiliaid Max Planck yn yr Almaen a Phrifysgol Abertawe wedi datgelu sut mae rhywogaethau adar môr gwahanol yn defnyddio strategaethau gwahanol i ymdopi â seiclonau gyda rhai ohonynt yn hedfan yn uniongyrchol tuag at y storm ac eraill yn defnyddio tactegau osgoi.

  • 24 Chwefror 2023
    Myfyrwyr sy'n ymweld o Wcráin yn cael eu croesawu'n swyddogol i Abertawe

    Cafodd myfyrwyr o Wcráin, gan gynnwys rhai o brifysgol bartner Abertawe yn y wlad, eu croesawu'n swyddogol i Abertawe mewn derbyniad ar y campws, lle cawsant eu hannerch gan yr Is-ganghellor ac Universities UK.

  • 23 Chwefror 2023
    Y Brifysgol yn helpu i greu ap realiti rhithwir newydd i ennyn diddordeb mewn gyrfaoedd lled-ddargludyddion

    Mae Prifysgol Abertawe wedi partneru â chwmni technoleg ymgolli i greu profiad realiti rhithwir newydd â'r nod o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ddilyn gyrfa mewn pynciau STEM. 

  • 20 Chwefror 2023
    Prifysgol Abertawe wedi'i henwi’n brif noddwr newydd Hanner Marathon Abertawe

    Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cytundeb tair blynedd i fod yn brif noddwr ras arobryn Hanner Marathon Abertawe.

  • 17 Chwefror 2023
    Grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn rhannu ag ymchwilwyr brofiadau o fyw drwy Covid

    Mae ymchwil newydd wedi datgelu sut gwnaeth aelodau o grwpiau lleiafrifoedd ethnig ymdopi â heriau a achoswyd gan bandemig Covid.

  • 16 Chwefror 2023
    Y Brifysgol yn y 12fed safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall

    Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei chanlyniad gorau erioed ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, gan ddringo 14 o safleoedd i rif 12 yn y DU yn gyffredinol.

  • 15 Chwefror 2023
    Prifysgol Abertawe yn cydweithio â Chlwb Pêl Droed Dinas Abertawe a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru i gefnogi Mis y Galon

    Mae Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe yn ymuno â Phrifysgol Abertawe a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru i ddangos eu cefnogaeth i Fis y Galon ym mis Chwefror.

  • 15 Chwefror 2023
    Tîm o Brifysgol Abertawe'n rhan o bartneriaeth ledled y DU sydd wedi cael £2.2m i wella ymchwil i ddementia

    Mae tîm o'r uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe'n rhan o bartneriaeth ledled y DU sydd wedi sicrhau gwerth £2.2 miliwn mewn cymorth gan ADDI (Alzheimer’s Disease Data Initiative) er mwyn helpu i bontio'r bwlch rhwng darganfyddiadau sylfaenol yn y labordy a threialu'n llwyddiannus ffyrdd newydd o drin dementia.

  • 14 Chwefror 2023
    Astudiaeth newydd yn nodi ffactorau risg sy'n gysylltiedig â phwysau geni isel

    Mae genedigaethau lluosog, cyfnod byr rhwng beichiogrwydd a mamau sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, mewn mwy o berygl o gael babi â phwysau geni isel yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe.  

  • 14 Chwefror 2023
    Ymchwil newydd yn dangos yr arweinir postio hun-luniau gan ymddygiad ymosodol

    Dengys ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe fod menywod yn postio hun-luniau sy'n gysylltiedig â strategaethau cyflwyno'ch hunan mewn ffordd fygythiol, sy'n cyd-fynd â lefelau uchel o ymddygiad ymosodol.

  • 13 Chwefror 2023
    Car newydd yn rhoi hwb i gefnogaeth hanfodol canolfan rhoddwyr llaeth i fabanod sâl a chynamserol

    Bydd mwy o fabanod yng Nghymru yn elwa wrth i gerbyd trydan newydd gyrraedd sy’n cefnogi casgliadau llaeth gan roddwyr.

  • 9 Chwefror 2023
    Dur gwyrddach a glanach: technoleg rithwir yn asesu hydrogen fel tanwydd ar gyfer ffwrneisi i dorri allyriadau carbon

    Mae arbenigwyr dur wedi bod yn edrych yn rhithwir y tu mewn i siafft ffwrnes, fel rhan o brosiect newydd i brofi pa mor dda y byddai hydrogen yn gweithio fel adweithydd ar gyfer gwneud dur.  Os bydd newid i hydrogen o danwydd ffosil yn profi i fod yn ddichonadwy, byddai'n torri allyriadau carbon o'r broses gwneud dur yn sylweddol.

  • 31 Ionawr 2023
    Prifysgol Abertawe yw prif noddwr cynhadledd ac arddangosfa yn y ddinas

    Prifysgol Abertawe yw prif noddwr Cynhadledd ac Arddangosfa Canol Dinas Abertawe 2023, a fydd yn dychwelyd i Arena Abertawe ddydd Mercher, 29 Mawrth, yn dilyn llwyddiant y gynhadledd y llynedd yn y lleoliad.

  • 30 Ionawr 2023
    Gŵyl Varsity Cymru'n dychwelyd i'r brifddinas wrth iddi gael ei chynnal am y 25ain tro

    Bydd gŵyl Varsity Cymru 2023 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 2019 wrth i dimau o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd fynd benben â'i gilydd yn ei 25ain flwyddyn.

  • 27 Ionawr 2023
    Hwb gwerth £100,000 i CADR i gefnogi oedolion hŷn sydd wedi colli eu clyw

    Mae academyddion o Brifysgol Abertawe wedi derbyn cyllid gwerth £100,000 i roi hwb i dystiolaeth a dealltwriaeth hanfodol am bwysigrwydd creu cymdogaethau priodol, cymdeithasol, cynaliadwy a gwydn yn ogystal ag amgylchoedd ar gyfer oedolion hŷn sydd wedi colli eu clyw.

  • 26 Ionawr 2023
    Pobl sy’n hanu’n wreiddiol o Affrica a straeon pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio yn cael lle blaenllaw ar restr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2023

    Cyhoeddir rhestr hir ryngwladol un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i ysgrifenwyr ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – heddiw, ddydd Iau 26 Ionawr. Gydag awduron yn hanu o'r DU, Iwerddon, Nigeria, Cenia, Somalia, Libanus ac Awstralia, mae'r rhestr hir eleni o 12 yn cynnwys cynifer o newydd-ddyfodiaid ag enwau cyfarwydd, gyda lleisiau pobl sy’n hanu’n wreiddiol o Affrica a menywod yn cael lle blaenllaw ar y rhestr hir.

  • 25 Ionawr 2023
    Gellid defnyddio ‘patshyn clyfar’ sydd newydd ei ddatblygu i ganfod clefyd Alzheimer

    Mae gwyddonydd amlwg ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu ‘patshyn clyfar’ newydd sy’n gallu canfod biofarcwyr llidhyrwyddol afiechydon niwroddirywiol megis clefydau Parkinson ac Alzheimer trwy ddefnyddio technoleg micronodwyddau.

  • 24 Ionawr 2023
    240 o swyddi a gwaith ymchwil ac arloesi hollbwysig ar ymyl y dibyn heb gamau brys i wneud iawn am golli cyllid yr UE, yn ôl Pennaeth Prifysgol Abertawe

    Mae Pennaeth Prifysgol Abertawe wedi rhybuddio bod dyfodol y sector ymchwil ac arloesi yng Nghymru – gan gynnwys mwy na 240 o swyddi medrus iawn ym Mhrifysgol Abertawe, mewn meysydd hollbwysig o ynni glân i ymchwil feddygol – yn y fantol yn ystod yr wythnosau nesaf, oni bai bod Llywodraeth y DU yn cymryd camau ar unwaith i wneud iawn am golli cyllid yr Undeb Ewropeaidd (UE).

  • 23 Ionawr 2023
    Adroddiad sero net blaenllaw yn enwi Prifysgol Abertawe

    Prifysgol Abertawe yw'r unig brifysgol yng Nghymru sydd wedi cael ei henwi yn adroddiad cyntaf The Royal Anniversary Trust, sy'n amlinellu cynllun uchelgeisiol i ddatgarboneiddio'r sector addysg drydyddol.

  • 17 Ionawr 2023
    Gwobr i ymchwilydd o Abertawe am waith sy'n lleihau llygredd afonydd o hen fwynfeydd

    Mae arbenigwr o Abertawe wedi ennill y wobr gyntaf mewn cynhadledd ryngwladol o fri am ei waith sy'n mynd i'r afael â llygredd afonydd o hen fwynfeydd.

  • 17 Ionawr 2023
    Y 'dallbwynt' sy'n ein hatal rhag gweld peryglon gyrru

    Ydy'n dderbyniol niweidio rhywun arall? Yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr yn y DU, gall yr ateb ddibynnu ar a oes car yn rhan o'r sefyllfa. Maent wedi dangos bod gan bobl 'ddallbwynt' cyffredin sy'n gallu achosi iddynt ddefnyddio safonau moesol a moesegol wrth feddwl am yrru ceir sy'n wahanol i'r rhai byddent yn eu defnyddio mewn agweddau eraill ar eu bywydau.

  • 16 Ionawr 2023
    Penodiad newydd ar gyfer ymchwilydd yw'r cyntaf i fenywod yng Nghymru

    Mae ymchwilydd arloesol y mae ei waith ar drawma ar y frest wedi cael effaith fyd-eang wedi sgorio apwyntiad cyntaf yng Nghymru.

  • 13 Ionawr 2023
    Cymrawd o Abertawe'n ymuno ag Academi’r Ifanc gyntaf y DU gyfan

    Mae Dr Muhammad Naeem Anwar, o Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe, ymhlith aelodau cyntaf Academi’r Ifanc newydd y DU – sef rhwydwaith o ymchwilwyr gyrfa gynnar ac ymarferwyr proffesiynol a grëwyd i helpu i fynd i'r afael â materion lleol a byd-eang a hyrwyddo newid ystyrlon.

  • 13 Ionawr 2023
    Bydd sgrinio pobl ddigartref am hepatitis C yn cyflymu diagnosis a thriniaeth

    Bydd pobl sy'n ddigartref neu mewn cartrefi ansefydlog iawn yn cael cynnig profion llif unffordd ar gyfer hepatitis C, ac yn fuan wedi hynny, profion PCR i gyflymu diagnosis a thriniaeth, a thrwy hynny, caiff y risg o drosglwyddiad ei leihau.

  • 10 Ionawr 2023
    Interniaid ym Mhrifysgol Abertawe'n rhannu safbwyntiau myfyrwyr am uniondeb academaidd

    Mae grŵp o interniaid y gyfraith yn Abertawe wedi bod yn helpu i lywio'r drafodaeth ynghylch uniondeb academaidd drwy rannu eu barn ag ymarferwyr addysg uwch proffesiynol.

  • Newyddion a Digwyddiadau
    • Newyddion
      • 2023
        • Mawrth
        • Chwefror
        • Ionawr
      • 2022
      • 2021
      • 2020
      • 2019
      • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
    • Ffocws Abertawe
  • Gwybodaeth i newyddiadurwyr
  • Gwybodaeth i Staff
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342