-
16 Mai 2022Cyllid i helpu prosiect arloesol ym maes lled-ddargludyddion i gyflawni uchelgeisiau sero net
Mae cyfleuster ymchwil ac arloesi newydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn hwb cyllid gwerth bron £2.5m i gynnal prosiect a fydd yn treialu strategaethau arloesol i leihau allyriadau fel y bydd y diwydiant lled-ddargludyddion yn helpu'r sector i gyflawni ei uchelgeisiau sero net.
-
12 Mai 2022Nofel gyntaf Patricia Lockwood yn ennill Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2022
Mae bardd, nofelydd ac ysgrifydd o America, Patricia Lockwood, wedi ennill un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei nofel gyntaf, No One Is Talking About This (Bloomsbury Publishing).
-
12 Mai 2022Cynnydd yn ymchwil y Brifysgol sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n rhagori'n rhyngwladol
Mae canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF2021) a gyhoeddwyd heddiw (12 Mai) yn dangos bod cyfran Prifysgol Abertawe o ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n rhagori'n rhyngwladol wedi gwella. Yn asesiad 2021, barnwyd bod 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol yn 4* (yn arwain y ffordd yn fyd-eang) neu'n 3* (yn rhagori'n rhyngwladol) – i fyny o 80% yn REF2014.
-
11 Mai 2022Canfod feirysau drwy bigiad pin
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe, Biovici Ltd ac yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol wedi datblygu dull i ganfod feirysau mewn cyfeintiau bach iawn.
-
11 Mai 2022Academi'r Gwyddorau Meddygol yn enwi Athro Iechyd Cyhoeddus yn Gymrawd
Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus o Brifysgol Abertawe wedi cael ei anrhydeddu gan Academi'r Gwyddorau Meddygol.
-
11 Mai 2022Gweld mwy o rywogaethau ar yr arfordir yn gwella lles – ymchwil newydd yn tanlinellu buddion bioamrywiaeth
Mae gweld nifer mawr o rywogaethau ar arfordiroedd trefol – o anifeiliaid morol i wymonau – yn debygol o wella lles pobl leol ac ymwelwyr, yn ôl ymchwil newydd gan dîm ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r canfyddiadau'n darparu rhagor o dystiolaeth bod bioamrywiaeth yn creu buddion pellgyrhaeddol.
-
9 Mai 2022Addysg a photensial ennill yn allweddol i boblogrwydd wrth chwilio am gariad ar-lein
Ni all arian brynu cariad ond mae'n gwneud eich proffil yn fwy atyniadol wrth chwilio am gariad ar-lein. Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod lefel addysg ac incwm yn arbennig o bwysig, yn enwedig yn achos dynion.
-
9 Mai 2022Prifysgol Abertawe yng Ngŵyl y Gelli
Mae straeon byrion cwiar o Gymru, lleisiau pob dydd o bandemig Covid-19, a chyfrol fuddugol Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni ymhlith y pynciau'n sy'n barod i ddifyrru cynulleidfaoedd yng Ngŵyl y Gelli wrth iddi gael ei chynnal am y 35ed tro rhwng 26 Mai a 5 Mehefin.
-
9 Mai 2022Astudiaeth newydd yn awgrymu na chyrchwyd gwasanaethau gan bedwar o bob 10 person roedd angen gofal cymdeithasol arnynt yn ystod y pandemig
Ni chyrchwyd gwasanaethau gan gynifer â phedwar o bob 10 person yng Nghymru roedd angen gofal cymdeithasol arnynt o bosib yn ystod pandemig Covid-19, yn ôl adroddiad newydd.
-
4 Mai 2022Ymchwil newydd yn dangos sut gall syrffio hybu lles y rhai sy'n goroesi anafiadau i'r ymennydd
Mae cenedlaethau o syrffwyr yn gwybod nad oes unrhyw beth tebyg i ddal y don berffaith, ond mae ymchwil newydd bellach wedi archwilio pa mor llesol y mae pŵer y môr.
-
3 Mai 2022Cymdeithas Ddysgedig Cymru'n anrhydeddu academyddion o Brifysgol Abertawe
Mae wyth academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
-
29 Ebrill 2022Myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n ennill dwy wobr mewn cystadleuaeth gwyddoniaeth seneddol
Mae ymchwilydd PhD mewn cemeg wedi ennill dwy wobr yn STEM for BRITAIN, sef cystadleuaeth posteri gwyddonol fawr a gynhelir yn Senedd y DU, sydd â'r nod o roi dealltwriaeth i wleidyddion o'r gwaith ymchwil rhagorol y mae ymchwilwyr gyrfa gynnar yn ei wneud ym mhrifysgolion y DU.
-
29 Ebrill 2022Sefydliad Cymru gyfan yn gweithio i hyrwyddo iechyd a lles y genedl: Adolygu'r flwyddyn
Mae'r heriau unigryw sy'n wynebu iechyd a lles wrth i ni gyrraedd cyfnod newydd ar ôl y pandemig wedi cael eu hamlygu mewn adroddiad blynyddol a lansiwyd heddiw.
-
28 Ebrill 2022Partneru i ddarparu cyfleoedd ymchwil ac arloesi
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe yn cydweithio i helpu i wella iechyd a lles cymunedau yn y tair sir o dan gytundeb newydd.
-
28 Ebrill 2022Ymchwilwyr Abertawe'n datblygu dull newydd i atal moleciwl rhag cylchdroi drwy ddefnyddio ynni isel iawn
Mae ymchwilwyr Abertawe wedi datblygu dull newydd i atal moleciwl rhag cylchdroi drwy ddefnyddio ynni isel iawn, gan daflu goleuni newydd ar ryngweithiadau rhwng moleciwlau ac arwynebau.
-
26 Ebrill 2022Derw hynafol i daflu goleuni ar hinsawdd y 4,500 o flynyddoedd diwethaf
Bydd ymchwilwyr cyn bo hir yn gallu ail-lunio hinsawdd gogledd-orllewin Ewrop, gan gynnwys y DU, dros y 4,500 o flynyddoedd diwethaf, a dyddio adeiladau a gwrthrychau pren mewn modd mwy cywir, drwy ddadansoddi cemeg hen dderw. Gwneir hyn drwy brosiect newydd a arweinir gan Abertawe sydd newydd gael ei ddewis i dderbyn cyllid Ewropeaidd gwerth €3m.
-
26 Ebrill 2022Ymchwilydd yn ennill cyllid rhyngwladol i helpu i arloesi gofal ym maes diabetes
Mae gwaith arloesol ymchwilydd o Brifysgol Abertawe ym maes diabetes wedi'i helpu i gael hwb mawr o ran cyllid.
-
26 Ebrill 2022Ysgolion y DU yn darparu addysg annigonol am y gylchred fislifol, yn ôl astudiaeth
Mae addysg am y gylchred fislifol yn ysgolion y DU yn anghyson ac yn annigonol, ac mae athrawon yn teimlo bod ganddynt ddiffyg amser, hyder a gwybodaeth am y pwnc, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
-
25 Ebrill 2022Prifysgol Abertawe ar restr fer Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2022
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer y categori Allgymorth ac Ehangu Cyfranogiad yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni eleni.
-
22 Ebrill 2022Castell Howell ac Arena Abertawe i noddi Prifysgol Abertawe ar gyfer Varsity Cymru
Castell Howell, y cyfanwerthwr bwyd o Gymru, ac Arena Abertawe, y lleoliad digwyddiadau newydd, fydd prif noddwyr Prifysgol Abertawe wrth i Varsity Cymru ddychwelyd eleni.
-
13 Ebrill 2022Myfyrwyr entrepreneuraidd Abertawe yn hybu eu syniadau busnes drwy The Big Pitch
Cafodd syniadau busnes myfyrwyr entrepreneuraidd hwb mawr yng nghystadleuaeth flynyddol The Big Pitch Prifysgol Abertawe, wedi'i noddi gan Santander Universities.
-
12 Ebrill 2022Adolygiad newydd yn canfod bod mamau awtistig yn wynebu rhwystrau ychwanegol i fwydo ar y fron
Mae adolygiad newydd gan Brifysgol Abertawe, gan weithio gyda Phrifysgol Caint ac Autistic UK, y sefydliad nid-er-elw, wedi canfod nad yw cymorth bwydo ar y fron gan fydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn addas i ddiwallu anghenion menywod awtistig yn aml.
-
8 Ebrill 2022Partneriaethau Prifysgol Abertawe'n cefnogi ymchwil i ddiogelu ac adfer coedwigoedd glaw
Mae ymchwilwyr blaenllaw yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn parhau â phartneriaeth lwyddiannus â rhaglen ymchwil flaenllaw i goedwigoedd glaw ym Morneo yn dilyn grant ymchwil newydd gwerth £330,000.
-
6 Ebrill 2022Gwobrau uchel eu bri'n cydnabod cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe ac Aspire2Be
Mae Prifysgol Abertawe ac Aspire2Be wedi cael cymeradwyaeth uchel yng Ngwobrau Cenedlaethol Cyflogadwyedd Israddedigion o ganlyniad i'w prosiect ar y cyd, iBroadcast.
-
6 Ebrill 2022Tablau QS o Brifysgolion y Byd fesul Pwnc 2022: Prifysgol Abertawe'n perfformio'n well nag erioed
Mae Prifysgol Abertawe wedi perfformio'n well nag erioed yn un o'r tablau mwyaf blaenllaw o brifysgolion y byd fesul pwnc a gyhoeddwyd heddiw.
-
5 Ebrill 2022Prosiect ymchwil newydd yn cymryd camau tuag at economi gylchol
Mae prosiect ymchwil â’r nod o ddod ag economi wirioneddol gylchol un cam yn agosach wedi derbyn grant ymchwil gwerth £1.2m gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (ESPRC).
-
1 Ebrill 2022Myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n ennill £1,000 drwy gystadleuaeth Dealer Tech
Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi ennill £1,000 mewn cystadleuaeth am ei syniad i greu cronfa ddata ar-lein ar gyfer cyflenwyr, gwneuthurwyr a delwriaethau cerbydau.
-
1 Ebrill 2022Academydd o Brifysgol Abertawe'n ennill gwobr am y traethawd ymchwil gorau
Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill gwobr Agronomy am y traethawd ymchwil PhD gorau o ganlyniad i'w ymchwil i sefydlu cyfuniad newydd o ddulliau o ganfod clefydau mewn cnydau bwyd, a allai gael effaith economaidd ac amgylcheddol fyd-eang.
-
31 Mawrth 2022Y Brifysgol yn ymuno mewn dathliad arbennig o gefnogaeth Abertawe i fudwyr
Mae Prifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad allweddol at helpu i lywio gwybodaeth pobl ifanc am fudo mewn arddangosfa newydd unigryw yn y ddinas.
-
31 Mawrth 2022Lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn flaenllaw ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2022
Mae'r rhestr fer ar gyfer un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei chyhoeddi. O Sri Lanka i Trinidad, Tecsas, ac Iwerddon drwy'r Dwyrain Canol, mae'r rhestr fer eleni'n cynnwys casgliad pwerus o lenorion rhyngwladol sy'n rhoi llais i rai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
-
29 Mawrth 2022Gwella palmentydd ffordd asffalt gan ddefnyddio nanogyfansoddion mwynol wedi’u peiriannu
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Dechnegol Braunschweig wedi datblygu rhwymydd asffalt newydd ac ecogyfeillgar ar y lefel nano.
-
25 Mawrth 2022Bysedd yn dangos cysylltiad rhwng testosteron isel a derbyniadau i'r ysbyty oherwydd Covid-19
A allai hyd bysedd rhywun awgrymu pa mor sâl y gallai fod ar ôl dal Covid-19?
-
23 Mawrth 2022Prifysgol Abertawe'n llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr
Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr, gan ymuno â thros hanner prifysgolion y DU a sawl sefydliad ymchwil wrth gefnogi addewid i gefnogi eu technegwyr.
-
21 Mawrth 2022Gwarchod coed anferth yr Amason – ymweliad gan ddaearyddwraig o Abertawe'n casglu data allweddol ac yn sicrhau ymrwymiad gan lywodraeth
Mae daearyddwraig o Abertawe wedi dychwelyd o'r Amason yn ddiweddar ar ôl casglu data allweddol am goed anferth dros 80 metr o uchder, a ddarganfuwyd yn gyntaf gyda'i chymorth hithau yn 2018. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae llywodraeth y dalaith ym Mrasil wedi ymrwymo i gyhoeddi Bil i'w gwarchod hwythau a'u hamgylchoedd.
-
18 Mawrth 2022Y Brifysgol yn taflu goleuni ar bwysigrwydd ailgylchu
Dangosodd Prifysgol Abertawe ei hymrwymiad i gynaliadwyedd drwy droi'n wyrdd i ddathlu Diwrnod Ailgylchu Byd-eang.
-
17 Mawrth 2022Myfyrwyr yn teithio dros yr Iwerydd i rannu ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial
Mae myfyrwyr PhD o Brifysgol Abertawe wedi bod yn rhannu eu hymchwil arloesol i ddeallusrwydd artiffisial â chydweithwyr yn America.
-
13 Mawrth 2022Dyfarniadau Cwmni Lifrai Cymru yn hybu ymchwil i sglerosis ymledol a bywyd morol
Mae dau ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill ysgoloriaethau teithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, a fydd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu gwaith ymchwil a'i rannu gydag arbenigwyr eraill.
-
11 Mawrth 2022Datganiad yr Is-ganghellor am Wcráin
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymuno â phrifysgolion a sefydliadau academaidd ledled y byd wrth gondemnio'n ddiamwys benderfyniad gwladwriaeth Rwsia i ymosod ar Wcráin.
-
11 Mawrth 2022Ymweliad brenhinol â chyfleuster ymchwil sy'n newid bywydau yn Abertawe
Ymwelodd Ei Huchelder Iarlles Wessex, noddwr The Scar Free Foundation, â'r rhaglen ymchwil adlunio wynebau blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe, gan gwrdd â chleifion a allai elwa o'r astudiaethau arloesol hyn.
-
9 Mawrth 2022Ymweliad â swyddogion diwylliannol yn hybu cysylltiadau Abertawe ag Oman a Qatar
Cysylltiadau cryfach ag Oman a Qatar oedd testun y trafodaethau yn ystod ymweliad gan uwch-gynrychiolwyr Prifysgol Abertawe â swyddfeydd Swyddogion Diwylliannol y ddwy wlad yn Llundain.
-
8 Mawrth 2022Diwydiannau gwyrddach – peirianwyr cemegol yn canfod ffyrdd newydd o ailddefnyddio carbon er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd
Mae peirianwyr cemegol o Brifysgol Abertawe'n dod o hyd i ffyrdd newydd o ddal ac ailddefnyddio carbon drwy greu cynhyrchion newydd er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
-
4 Mawrth 2022Astudiaeth newydd yn archwilio sut gallai llygryddion dan do effeithio ar iechyd plant
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi lansio astudiaeth fawr i ddarganfod sut mae llygryddion pob dydd yn effeithio ar ddatblygiad ac iechyd ffetysau a phlant.
-
3 Mawrth 2022Astudiaeth yn darganfod bod newyddion rhwydweithiau'r DU yn rhoi mwy o sylw i faterion datganoledig o ganlyniad i bandemig Covid-19
Mae astudiaeth newydd a gomisiynwyd gan Ofcom wedi datgelu bod darparwyr newyddion rhwydweithiau'r DU wedi rhoi mwy o sylw i bynciau datganoledig, yn bennaf o ganlyniad i'r pandemig.
-
3 Mawrth 2022Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng nghwmni'r Farwnes Tanni Grey-Thompson
Bydd y Farwnes Tanni Grey-Thompson yn siarad am yr heriau y mae hi wedi'u hwynebu a sut mae hi wedi'u goresgyn hwy, gan ddilyn thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022, sef #BreakTheBias.
-
3 Mawrth 2022Storio gwres yn yr haf i'w ddefnyddio yn y gaeaf – gallai ymchwil newydd i ddulliau storio ynni thermol leihau biliau a hybu ynni adnewyddadwy
Technoleg newydd a allai storio gwres am ddiwrnodau neu fisoedd hyd yn oed, gan helpu'r broses o symud tuag at sero net, yw ffocws prosiect newydd sy'n cynnwys Rhaglen Ymchwil y Ganolfan Adeiladu Gweithredol, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, sydd newydd gael cyllid gwerth £146,000.
-
24 Chwefror 2022Gwyddonydd o Brifysgol Abertawe i gyflwyno ei ymchwil yn Senedd y DU
Bydd Thomas Spriggs, myfyriwr ymchwil PhD ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyflwyno ei ymchwil ffiseg yn Senedd y DU, i banel llawn beirniaid arbenigol a gwleidyddion, fel un o’r ymgeiswyr yn rownd derfynol STEM for Britain 2022.
-
23 Chwefror 2022Prifysgol Abertawe yn 26ain ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg y 100 o gyflogwyr mwyaf cynhwysol yn y DU ar gyfer staff LGBTQ+, am y chweched flwyddyn yn olynol.
-
22 Chwefror 2022Sesiynau ar-lein am ddim ar gyfer gradd ran-amser yn y dyniaethau
Os ydych yn ystyried ailgydio yn eich addysg neu'n dymuno cael blas ar astudio, bydd Prifysgol Abertawe'n cynnig cyfres o sesiynau am ddim i roi profiad uniongyrchol i chi.
-
17 Chwefror 2022Prifysgol Abertawe'n ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am dechnolegau ynni adnewyddadwy chwyldroadol
Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod ei hymchwil Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg sy'n arwain chwyldro mewn technolegau ynni adnewyddadwy, yn benodol ynni solar a chreu a storio gwres.
-
17 Chwefror 2022Ap newydd sy'n gallu helpu pobl ifanc i lywio eu cymunedau
Mae ap newydd wedi cael ei lansio sy'n rhoi'r cyfle i bobl ifanc werthuso eu cymunedau a helpu i'w gwella.
-
16 Chwefror 2022Athletwyr elît yn defnyddio Dillad Clyfar Prifysgol Abertawe
Mae Gweinidog Llywodraeth y DU, David TC Davies, wedi ymweld â phrosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy’n werth £132 miliwn, i weld sut datblygwyd y dechnoleg ar gyfer Dillad Clyfar - dillad yr oedd rhai athletwyr (gan gynnwys rhai a enillodd fedalau) wedi’u gwisgo yn y gemau Olympaidd yn Tokyo y llynedd.
-
15 Chwefror 2022Prifysgol Abertawe'n helpu i wreiddio treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Abertawe yn y cwricwlwm
Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio pecyn adnoddau digidol newydd ar gyfer plant rhwng 9 ac 11 oed a fydd yn helpu disgyblion i ddysgu am ddiwydiant copr rhyngwladol bwysig Abertawe wrth ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.
-
14 Chwefror 2022Astudiaeth yn datgelu effaith y cyfnodau clo ar iechyd meddwl pobl ifanc
Cafodd yr ail gyfnod clo o ganlyniad i Covid-19 yr effaith fwyaf ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc ymhlith poblogaeth Cymru, yn ôl ymchwil newydd.
-
11 Chwefror 2022Covid-19: Astudiaeth yn chwilio am gyfranogwyr i archwilio agweddau'r cyhoedd at ofal cymdeithasol yng Nghymru
Mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe'n chwilio am gyfranogwyr i archwilio agweddau'r cyhoedd at ofal cymdeithasol yng Nghymru yn dilyn pandemig Covid-19.
-
10 Chwefror 2022Arbenigwyr yn dadlau bod ymagwedd y DU at Covid-19 ymhlith plant yn ‘eithriad rhyngwladol'
Mae'r DU yn ‘eithriad rhyngwladol’ yn ei hymagwedd at ddiogelu plant rhag Covid-19, mae arbenigwyr yn dadlau yn The BMJ heddiw.
-
9 Chwefror 2022Y Brifysgol yn helpu i wella diogelwch meddyginiaethau ar ddechrau mamolaeth
Mae ymchwilwyr o Fanc Data SAIL a Phrifysgol Abertawe’n gwneud cyfraniad allweddol at brosiect rhyngwladol gwerth miliynau o bunnoedd i wella diogelwch meddyginiaethau a roddir i ddarpar famau a mamau sy'n bwydo babanod ar y fron.
-
3 Chwefror 2022Expertscape yn enwi athro o Brifysgol Abertawe yn arbenigwr mewn ymddygiad llonydd
Mae'r Athro Kelly Mackintosh o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi cael ei chydnabod fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd mewn ymddygiad llonydd.
-
3 Chwefror 2022Lleisiau amrywiol a byd-eang yn flaenllaw ar restr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe
Cyhoeddir y rhestr hir ryngwladol ar gyfer un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe heddiw, dydd Iau 3 Chwefror. O Sri Lanka i Trinidad, Tecsas, ac Iwerddon drwy'r Dwyrain Canol, mae'r rhestr hir eleni'n cynnwys casgliad pwerus o lenorion rhyngwladol sy'n rhoi llais i rai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
-
28 Ionawr 2022Prifysgol Abertawe'n arwain yr ymchwil gyntaf o'i math sy'n archwilio gamblo a lles yn y Llu Awyr Brenhinol
Cyhoeddwyd astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe a Chronfa Les y Llu Awyr Brenhinol sy'n archwilio lles gweithlu presennol y Llu Awyr Brenhinol, gan roi pwyslais allweddol ar broblemau gamblo, y defnydd o alcohol ac iechyd meddwl.
-
28 Ionawr 2022Prifysgol Abertawe'n penodi Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi bod Niamh Lamond wedi cael ei phenodi'n Gofrestrydd ac yn Brif Swyddog Gweithredu, ar ôl proses recriwtio allanol gystadleuol. Mae Niamh wedi bod yn llenwi'r rôl ar sail interim ers mis Gorffennaf 2021 a bydd hi bellach yn parhau ynddi'n barhaol.
-
27 Ionawr 2022Cyllid gwerth £17 miliwn ar gyfer ymchwil data cydweithredol yng Nghymru
Bydd menter y mae Prifysgol Abertawe’n cymryd rhan ynddi sydd wedi trawsnewid sut gellir defnyddio data i roi cipolwg ar faterion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru yn parhau, diolch i fuddsoddiad gwerth bron £17 miliwn.
-
26 Ionawr 2022Canmol gwaith arloesol y Brifysgol i hyrwyddo pwysigrwydd economi gylchol
Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i hyrwyddo economi gylchol wedi sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol.
-
26 Ionawr 2022Gwyddonwyr yn defnyddio GPS i olrhain symudiadau haid o fabŵns mewn mannau trefol am y tro cyntaf
Mewn astudiaeth unigryw, mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn y DU a Phrifysgol Cape Town yn Ne Affrica wedi defnyddio coleri â system leoli fyd-eang (GPS) er mwyn astudio ymddygiad torfol haid o fabŵns sy'n byw ar gyrion dinas Cape Town.
-
26 Ionawr 2022Varsity Cymru'n dychwelyd ar ôl bwlch o ddwy flynedd
Ar ôl bwlch o ddwy flynedd o ganlyniad i bandemig Covid-19, mae'r dyddiad ar gyfer Varsity Cymru 2022 rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe wedi cael ei gadarnhau.
-
25 Ionawr 2022Sicrhau bod y cyhoedd yn cefnogi polisïau Covid-19: ffydd mewn arbenigwyr wrth i wleidyddion bolareiddio
Mae polisïau i fynd i'r afael â Covid-19 yn fwy tebygol o gael cefnogaeth eang y cyhoedd os bydd arbenigwyr neu glymbleidiau o bleidiau gwahanol, yn hytrach na gwleidyddion o un blaid yn unig, yn eu cynnig, yn ôl astudiaeth newydd o saith gwlad y cyfrannodd academydd o Brifysgol Abertawe ati.
-
24 Ionawr 2022Arbenigwyr yn pwysleisio cyfraniad lles at iechyd pobl
Amlygwyd pwysigrwydd lles a'i gyfraniad at iechyd mewn papur newydd gan academyddion o Brifysgol Abertawe.
-
24 Ionawr 2022Babanod i elwa o gronfa llaeth y fron gyntaf Cymru
Mae Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi lansio partneriaeth newydd â'r Human Milk Foundation (HMF) a fydd yn sefydlu cronfa llaeth y fron yng Nghymru am y tro cyntaf.
-
19 Ionawr 2022Academyddion o Brifysgol Abertawe'n cefnogi ymgyrch NASA drwy fapio argaeau ar draws afonydd
Cyhoeddwyd cronfa ddata ofodol newydd o argaeau a rhwystrau eraill a adeiladwyd yn rhannol neu'n llawn ar draws afonydd mwyaf y byd.
-
14 Ionawr 2022Astudiaeth o effaith problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar gyfraddau marw pobl ifanc
Mae pobl ifanc â hanes o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau yn fwy tebygol o farw na'r rhai sydd â phroblem iechyd meddwl yn unig neu sy'n camddefnyddio sylweddau yn unig.
-
12 Ionawr 2022Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn cydnabod Athro Iechyd Cyhoeddus
Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus a gydnabuwyd gan y Frenhines yn dweud bod ei anrhydedd yn adlewyrchu enw da Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe.
-
11 Ionawr 2022Arbenigwyr yn datgan bod dysgu ar-lein yn ystod y cyfnodau clo wedi effeithio ar les plant
Bu'n anodd i blant ysgol uwchradd ganolbwyntio ar eu gwaith ysgol ac ymddiddori ynddo pan gyflwynwyd dysgu ar-lein yn ystod y cyfnodau clo, gan effeithio'n negyddol ar eu hyder a'u lles, yn ôl astudiaeth newydd.
-
10 Ionawr 2022Effaith ffugiadau dwfn ar hyder mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr - grant gwerth €1.5m i arbenigwr o Brifysgol Abertawe
Dyfarnwyd €1.5m i arbenigwr yn y gyfraith o Brifysgol Abertawe i archwilio sut mae canfyddiadau'r cyhoedd ynghylch ffugiadau dwfn – delweddau, fideos neu sain sydd wedi cael eu trin â deallusrwydd artiffisial – yn effeithio ar hyder mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr o dorri hawliau dynol.
-
1 Ionawr 2022Dyfarnu CBE i'r Athro Tavi Murray yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
Dyfarnwyd CBE i'r Athro Tavi Murray, Athro Rhewlifeg yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd am ei gwasanaethau i ymchwil i newid yn yr hinsawdd a rhewlifeg.