Trosolwg
Ymunodd Yvonne ag Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym mis Medi 2017, ar ôl bod yn Uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor cyn hynny. Mae hi wedi gweithio hefyd i Adran Materion Tramor Iwerddon, ac fel ymgynghorydd i Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid (UNHCR), Swyddfa Gwasanaethau Goruchwylio Mewnol y Cenhedloedd Unedig (OIOS) a'r Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop (OSCE). Mae gan Yvonne raddau israddedig yn y Gyfraith gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway, LLM (cum laude) mewn Cyfraith Gyhoeddus Ryngwladol gan Brifysgol Leiden a PhD gan Ganolfan Hawliau Dynol Iwerddon. Cafodd ei thraethawd ymchwil doethurol Glod Arbennig yng Ngwobr Rene Cassin am Draethawd Ymchwil yn 2014 ac yna fe’i cyhoeddwyd gan Oxford University Press dan y teitl Fairness in International Criminal Trials yn 2016.