Dr Youri van Logchem

Uwch-ddarlithydd, Law
105
Llawr Cyntaf
Adeilad Richard Price
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Dr. Youri van Logchem yn uwch ddarlithydd yn y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnachu Rhyngwladol yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Mae'n addysgu ar lefel ôl-raddedig ac israddedig, yn bennaf ym meysydd cyfraith ryngwladol y môr, cyfraith ynni ryngwladol, a chyfraith gyhoeddus ryngwladol gyffredinol. Cyn hynny, roedd yn gymrawd PhD yn Sefydliad yr Iseldiroedd ar gyfer Cyfraith y Môr (NILOS), ym Mhrifysgol Utrecht, lle ysgrifennodd ei draethawd PhD ar reolau a rhwymedigaethau Gwladwriaethau mewn ardaloedd morol sy’n destun dadl o dan oruchwyliaeth yr Athro Alex Oude Elferink a'r Athro Fred Soons. Roedd hefyd yn ddarlithydd iau ac yn ymchwilydd mewn damcaniaeth gyfreithiol ym Mhrifysgol Utrecht, ac yn Swyddog Polisi Iau yn yr Hague Institute for the Internationalisation of Law (HiiL).

Cafodd Youri ei LLB (gyda chanmoliaeth) ym Mhrifysgol Utrecht, a graddiodd cum laude o’i gwrs dwy flynedd Meistr er Anrhydedd mewn Ymchwil Gyfreithiol yn yr un Brifysgol. Yn ogystal, mae wedi cyhoeddi sawl erthygl (e.e. yn y Vanderbilt Journal of Transnational Law ac Ocean Development & International Law) a phenodau llyfrau, sydd wedi'u dyfynnu gerbron llysoedd a thribiwnlysoedd rhyngwladol. Mae ei gyhoeddiadau'n cynnwys pennod llyfr wedi'i chyd-ysgrifennu gyda'r Barnwr David Anderson ar hawliau a rhwymedigaethau Gwladwriaethau mewn ardaloedd morol sy’n destun dadl. Mae ei fonograff The Rights and Obligations of States in Disputed Maritime Areas ar fin dod allan gyda Cambridge University Press. Mae Youri hefyd wedi derbyn gwobrau am gyflawniadau academaidd, gan gynnwys y Rhodes Academy Submarine Cables Award, ac mae wedi cyflwyno mewn cynadleddau amrywiol ledled y byd.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfraith y Môr
  • Ardaloedd Morol sy’n Destun Dadl
  • Pennu Terfynau Morol
  • Ceblau Telathrebu Isforol
  • Cyfraith Gyhoeddus Ryngwladol
  • Cyfraith Ynni Ryngwladol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

Mae Youri wedi derbyn y canlynol:

  • Y Rhodes Academy Submarine Cables Award a noddwyd gan y Pwyllgor Diogelu Ceblau Rhyngwladol, yn 2013
  • Gwobr Cystadleuaeth Ymchwil Sefydliad Cyfraith y Môr (LOSI) ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, yn 2011