Trosolwg
Mae Wanling yn ymchwilio i'r cysylltiad rhwng cynaliadwyedd gweithredoedd cwmnïau a'u hamlygiad ar brisiau asedau. Mae'n defnyddio technegau meintiol datblygedig i gynnig dirnadaeth newydd o'r maes cyllid hwn, a fydd yn hollbwysig yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae'n cwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Lerpwl, lle mae ei thraethawd ymchwil yn canolbwyntio ar y berthynas dair ffordd rhwng cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, perfformiad ariannol corfforaethol ac adenillion stoc.
Y tu hwnt i'w PhD, mae Wanling yn weithredol mewn cydweithrediadau sy'n archwilio'r defnydd o fethodolegau gwyddor data mewn cyllid. Mae ei gwaith cynnar ar ragweld risg credyd wedi'i gyhoeddi yn Expert Systems with Applications, tra bod ei gwaith ar gymarebau ariannol ac adenillion stoc wedi'i gyflwyno mewn cynadleddau gwyddor data ariannol blaenllaw. Mae gan Wanling bapurau gwaith hefyd ar bŵer dadansoddi data amserol o gyfresi amser i ddeall anwadalrwydd masnachu a risg posibl o gwymp yn y farchnad stoc. Gan gydnabod pwysigrwydd cadw unrhyw waith data yn gadarn ac yn gyson gyda theori cyllid, mae hi hefyd wedi'i chyhoeddi gwaith yn ymwneud â'r angen i brofi modelau prisio asedau'n gadarn mewn Llythyrau Ymchwil Cyllid.
Yn awyddus i ymgysylltu â'r maes practis, mae gan Wanling gysylltiadau cryf o fewn y gymuned technoleg ariannol leol, ac mae'n cydweithio â phartneriaid yn y diwydiant i drosoli'r ddirnadaeth a ddaw yn sgil ei gwaith. Mae hi bob amser yn agored i sgyrsiau newydd gyda chydweithwyr sydd â diddordeb mewn cyllid cynaliadwy a'r cyfleoedd sy'n cael eu cyflwyno gan wyddor data.