Trosolwg
Mae Stefano yn gyfreithiwr cymwysedig yn yr Eidal, gyda phrofiad helaeth o ymchwil ac addysgu ym maes cyfraith a pholisi eiddo deallusol. Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, bu’n addysgu eiddo deallusol a phwnc cysylltiedig ym Mhrifysgol De Cymru, lle bu hefyd yn arwain y cyrsiau ôl-raddedig ar eiddo deallusol a'r LLM mewn Eiddo Deallusol ar gyfer staff Swyddfa Eiddo Deallusol y DU. Mae Stefano yn Olygydd y Journal of Intellectual Property Law and Practice (Oxford University Press) ac mae wedi cael ei ddewis fel Arweinydd Ymchwil Cymru yn y dyfodol gan raglen Crwsibl Cymru yn 2017.
Mae ei brif faes ymchwil yn canolbwyntio ar gyfraith batentau (gan gynnwys agweddau hanesyddol a damcaniaethol cysylltiedig) ac ar y rhyngweithio rhwng eiddo deallusol a chyfraith cystadleuaeth (e.e. patentau hanfodol safonol, trwyddedu FRAN/D, setliadau talu am oedi neu daliadau gwrthdro, trosglwyddo technoleg).
Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn deall y ffordd y mae technolegau newydd (deallusrwydd artiffisial, blockchain, data mawr, roboteg) yn llywio ein canfyddiad a'n dull o ymdrin â hawliau eiddo deallusol, yn ogystal ac ymchwilio i addasrwydd y fframwaith cyfreithiol presennol i ddelio â thechnolegau newydd.
Mae gan rai elfennau o'i ymchwil natur drawsddisgyblaethol ac maent yn archwilio cysylltiadau rhwng cyfraith eiddo deallusol a llenyddiaeth, economeg, meddygaeth a hanes. Mae hefyd yn astudio effaith hawliau eiddo deallusol ar ddatblygu diwylliannau arloesi, ym meysydd gwyddoniaeth a diwylliant, a'u heffeithiau ar gystadleuaeth, tryloywder y farchnad a lles defnyddwyr.