Trosolwg
Mae Dr Suzanne Bevan yn aelod o'r Adran Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe
Mae Dr Suzanne Bevan yn aelod o'r Adran Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe
Ar hyn o bryd rwy'n cyflawni swydd ymchwil ond rydw i wedi cydlynu neu addysgu amrywiaeth o gyrsiau yn y gorffennol gan gynnwys Delweddu Data, Ymagweddau ar Ddaearyddiaeth Ffisegol, Meteoroleg, Rhewlifeg, Daear Beryglus, Hinsawdd y Mileniwm diwethaf, a Chwrs Maes yn Vancouver.
Mae fy niddordebau ymchwil yn ymwneud â defnyddio arsylwadau a geir gan offerynnau a gludir gan loeren i ganfod a monitro newid amgylcheddol byd-eang. Rwy'n gweithio'n bennaf ar newid cryosfferig - ar rewlifoedd yr Ynys Las a sgafelli iâ Antarctica. Yn y rhanbarthau hyn rwy'n defnyddio data optegol a microdon i fesur llif yr wyneb, gweddlun wyneb, a thoddiant yr wyneb. Mae'r technegau rwy'n eu defnyddio yn cynnwys olrhain nodweddion ac interferometreg radar.
Mae fy ymchwil presennol, fel ôl-ddoethur ar brosiect CALISMO (Deddfau Ymrannu ar gyfer Modelau Llenni Iâ) a ariennir gan NERC, yn canolbwyntio ar ddadansoddi arsylwadau lloeren o rewlifoedd allfa'r Ynys Las a sgafelli iâ'r Antarctig i lywio a dilysu modelau rhifiadol o brosesau ymrannu.
Grwpiau Ymchwil: Grŵp Rhewlifeg
Grŵp ymchwil sy'n ymroi i hyrwyddo gwybodaeth wrth feintioli cyfraniad y gorffennol a'r dyfodol o rewlifoedd a sgafelli iâ i gynnydd yn lefel y môr; y prosesau sy'n gyrru'r newidiadau cyflym a dramatig presennol a welwyd mewn rhewlifoedd, a'r ansefydlogrwydd sy'n gynhenid mewn systemau rhewlifol; a'r cofnod o ansefydlogrwydd màs iâ palaeo a'r prosesau a sbardunodd y newidiadau hyn.
This residential field course module explores the relationship between environment and society in the Himalayan state of Sikkim in NE India on the borders with China, Nepal, Tibet and West Bengal. The course is inter-disciplinary in approach and policy-oriented. Students work with members of University Staff in mixed groups of biologists, human geographers, physical geographers and zoologists. Through intensive inter-disciplinary group working students utilise (and pass on) their specialist skills in the group exercises and projects that are undertaken.
2007 - Presennol
2007 - 2007
2007 - 2007
2003 - 2007
1996 - 2003
1989 - 1992
1987 - 1989
1984 - 1987