Golwg o Gampws Bae o’r awyr , gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o Dr Richard Baylis

Dr Richard Baylis

Athro Cyswllt
Accounting and Finance

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
227
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Richard yn Athro Cysylltiol mewn Cyfrifeg ac, ar hyn o bryd, ef yw Pennaeth Cyfrifeg a Chyllid yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe. Mae ganddo BSc a PhD o Brifysgol Abertawe, mae'n Gyfrifydd Siartredig (ACA), gan ddod yn gymrawd (FCA) yn 2020 ac fe'i penodwyd yn Uwch-gymrawd o'r Academi Addysg Uwch (SFHEA) yn 2024.

Dechreuodd Richard ei yrfa academaidd yn Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, lle bu'n addysgu ac yn ymgymryd ag ymchwil ym meysydd adrodd ariannol, archwilio, cyfrifyddu yn y sector cyhoeddus ac, addysgeg gyfrifyddu. 

Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolion a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan gynnwys Journal of Accounting and Economics, Accounting and Business Research ac mae wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'n adolygydd ad-hoc i sawl cyfnodolyn rhyngwladol gan gynnwys Accounting and Business Research, British Accounting Review ac Abacus.

Mae Richard wedi addysgu ar lefelau amrywiol ac ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol. Ei brif arbenigedd yw adrodd ariannol ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, ond mae hefyd wedi darparu cyrsiau pwrpasol i fyd diwydiant a nifer o gyrff yn y sector cyhoeddus (e.e. GIG Cymru a Senedd Cymru).  

Mae Richard wedi gweithio'n agos gyda chyrff proffesiynol ac academaidd, megis Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) a Chymdeithas Cyfrifyddu a Chyllid Prydain, wrth ledaenu ei waith, rhoi arfer gorau ar waith a chan ymgysylltu â thirwedd addysg ac ymarfer cyfrifeg sy'n newid yn barhaus.  

Ar hyn o bryd mae Richard yn aelod o Bwyllgor yr Adrannau Cyfrifyddu a Chyllid (CDAF), sy'n rhan o Gymdeithas Cyfrifyddu a Chyllid Prydain (BAFA) ac mae'n un o ymddiriedolwyr Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr. 

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfrifeg
  • Adrodd Ariannol Rhyngwladol
  • Archwilio a sicrwydd
  • Cyfrifyddu yn y sector cyhoeddus
  • Addysg Gyfrifyddu
  • Addysg Weithredol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Adrodd ariannol

Rheoli ariannol

Dadansoddi ariannol

Archwilio

Cyfrifyddu yn y Sector Cyhoeddus

Addysg Weithredol

Cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn arferion cyfrifyddu

Ymchwil Prif Wobrau