Trosolwg
Mae Dr Rebecca Ward yn Ddarlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi'n dysgu ar amrywiaeth o fodiwlau, gan gynnwys Seicoleg Ddatblygiadol, Seicoleg Fiolegol a Dulliau Ymchwil ac Ystadegau. Mae ei diddordebau ymchwil yn ymwneud yn fras â chaffael iaith a dwyieithrwydd, â phwyslais penodol ar blant ag anableddau datblygiadol, er enghraifft Syndrom Down ac Awtistiaeth. Hwn oedd pwnc ei hymchwil ddoethurol, y gwaith ymchwil cyntaf i ymchwilio i ddwyieithrwydd ymhlith plant â Syndrom Down sy'n siarad Cymraeg a Saesneg. Mae hi'n angerddol am ledaenu canfyddiadau ymchwil i'r rhai y tu allan i'r cyd-destun academaidd uniongyrchol ac mae hi wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd i rannu gwybodaeth ag amrywiaeth o unigolion a sefydliadau.
Cyn ei rôl bresennol, bu'n Ddarlithydd rhan-amser mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor ac yn Uwch Gynorthwy-ydd Ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru. Ei phrif nod yn y rôl hon oedd datblygu pecyn hyfforddiant mewn partneriaeth â sefydliadau'r trydydd sector er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o gyflwr o'r enw Niwed i'r Ymennydd yn Gysylltiedig ag Alcohol. Ffocws y prosiect hwn oedd defnyddio canfyddiadau ymchwil mewn ffordd newydd er mwyn llywio ymarfer yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae hi wedi gweithio'n gydweithredol gyda nifer o bartneriaid allanol, gan gynnwys y Gymdeithas Syndrom Down, Anableddau Dysgu Cymru a'r Grŵp