Dr Rhian Meara

Dr Rhian Hedd Meara

Uwch-ddarlithydd, Geography

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Swyddfa Academaidd - 204A
Ail lawr
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Sylwebydd y Cyfryngau

Trosolwg

Academydd addysgu ydw i sy’n canolbwyntio’n benodol ar addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Darlithydd Daearyddiaeth Ffisegol a Daeareg ydw i sy’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cwblheuais fy ngradd israddedig mewn Daeareg ym Mhrifysgol Caerlŷr rhwng 2003 a 2007 gan arbenigo mewn geocemeg, petrogenesis igneaidd a fwlcanoleg ffisegol. Yna symudais i Gaeredin lle y cwblheuais fy PhD a oedd yn canolbwyntio ar deffrogronoleg haenau teffra silisig o gyfnod y Holosen yng Ngwlad yr Iâ (https://www.era.lib.ed.ac.uk/handle/1842/5834).

Wedi imi orffen fy PhD deuthum i Abertawe i weithio fel Cynorthwy-ydd Ymchwil Ôl-ddoethuriaethol yn y grŵp ymchwil teffra gan astudio gorwelion micro-ludw yng nghreiddiau iâ'r Ynys Las. Yn 2012 symudais i Brifysgol Glasgow lle y dechreuais addysgu Gwyddorau Daear ac roeddwn yn gydlynydd cyrsiau ar gyfer pob modiwl Lefel 1 cyn dychwelyd i Abertawe i ddechrau yn fy swydd addysgu bresennol.

Meysydd Arbenigedd

  • Hygyrchedd mewn Addysg
  • Uwch Iaith Arwyddion
  • Prydain Peryglon Naturiol
  • Fwlcanoleg Ffisegol
  • Geocemeg
  • Y defnydd o archifau mewn daearyddiaeth ffisegol a daeareg

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Cymraeg, peryglon naturiol, sgiliau academaidd a gwaith maes.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau