Bay Campus image
female smiling

Dr Maggie Miller

Uwch-ddarlithydd, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rhagenwau: Hi/hithau

Mae gan Maggie Miller radd PhD mewn Astudiaethau Hamdden o Brifysgol Waterloo, Canada. Mae llawer o’i gwaith cyfredol yn canolbwyntio ar agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol cynaliadwyedd, wrth iddi ymgymryd ag ymchwil i ddeall, gwella ac eirioli dros gyfiawnder cymdeithasol a thegwch yng nghyd-destunau twristiaeth a hamdden. A hithau’n ysgolhaig ansoddol beirniadol, mae gwaith Maggie yn cael ei lywio gan ffyrdd perthynol o wybod ac mae’n pwyso ar fethodolegau amrywiol (e.e. naratif, gweledol a synhwyraidd) ac arferion ymchwil yn y gymuned. Ers ymuno ag Ysgol Reolaeth Abertawe yn 2018, mae Maggie wedi gweithio’n gydweithredol ac yn greadigol gyda chydweithwyr ar amrywiaeth o brosiectau – mae un o’i phrosiectau diweddaraf wedi mynd â hi i Dhorpatan, Nepal i asesu opsiynau bywoliaeth hyfyw a chyfleoedd mentrau twristiaeth.

Yn ogystal ag ymchwil, mae Maggie yn frwdfrydig am addysgu. Yn canolbwyntio ar ei myfyrwyr, mae’n gweithio’n galed i gynnal ystafell ddosbarth gynhwysol, ddeialogaidd a rhyngweithiol. Yn 2019, cafodd Maggie ei hanrhydeddu gyda Gwobr Athro’r Flwyddyn yn yr Ysgol Reolaeth. Cyn dod i weithio yn y byd academaidd, bu Maggie’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth mewn sawl swydd, gan gynnwys cyfnod yn Bocas del Toro, Panama fel ymgynghorydd twristiaeth cynaliadwy, a chydgysylltydd astudio dramor ym Mhrifysgol Daleithiol San Diego yn yr Unol Daleithiau.

Meysydd Arbenigedd

  • Dimensiynau cymdeithasol-ddiwylliannol cynaliadwyedd
  • Twristiaeth antur a hamdden
  • Moeseg a chyfrifoldeb mewn twristiaeth
  • Methodolegau gweledol a synhwyraidd
  • Dehongliadau cyfryngau cymdeithasol a rhywedd
  • Addysgeg feirniadol ac addysgeg drwy brofiadau