Trosolwg
Mae Dr Matthew Davies yn Athro Cyswllt ac yn bennaeth y Grŵp Ffotocemeg Gymhwysol yn IKC SPECIFIC, Canolfan Ymchwil Deunyddiau, Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe. Mae Matthew yn Gymrawd Arloesi EPSRC, yn Gymrawd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol (RSC) ac yn Aelod o Gyngor Is-adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd ac Ynni'r RSC.
Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ffotocemeg deunyddiau sy'n ddefnyddiol ar gyfer cymwysiadau ffotofoltäig cost isel, gyda'r nod yn y pen draw o wella sefydlogrwydd, effeithlonrwydd a pherfformiad cynaeafu golau. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar gelloedd solar perofsgit ond mae hefyd yn cynnwys ymchwil i gelloedd solar sydd wedi sensiteiddio i lifynnau - a ffotofoltäigau organig. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn nodweddiadu dyfeisiau wedi'u hailgynhyrchu ("ffotocemeg/ffotoffiseg ailddefnyddio deunyddiau") a datblygu deunyddiau a phrosesau fel y gellir ailddefnyddio ac ail-weithgynhyrchu o fewn economi gylchol i ddatblygu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ddeunyddiau solar ffotofoltäig. Hefyd, mae ganddo ymchwil ar ddatblygu atebion ynni adnewyddadwy ar gyfer Affrica wledig mewn cydweithrediad â Phrifysgol KwaZulu-Natal, Durban, De Affrica.
Gwrandewch ar Bodlediad Archwilio Problemau Byd-eang Prifysgol Abertawe lle mae Dr Davies yn trafod ei waith byd-eang ym maes technoleg ynni'r haul y genhedlaeth nesaf a sut rydyn ni’n gwneud ynni adnewyddadwy yn gynaliadwy.