Trosolwg
Cymhwysodd yr Athro Jeff Stephens (BSc, MB, BS PhD, FRCP, FAcadMEd, FHEA) mewn Meddygaeth yng Ngholeg Imperial Llundain ym 1994. Ymgymerodd â hyfforddiant arbenigol ym meysydd diabetes, endocrinoleg a meddygaeth fewnol gyffredinol ledled canol Llundain. Rhwng 2001 a 2004, cwblhaodd PhD mewn Geneteg yn y Ganolfan Geneteg Gardiofasgwlaidd yng Ngholeg Imperial Llundain, gyda chymorth Cymrodoriaeth Hyfforddiant Clinigol gan Diabetes UK. Dychwelodd i Gymru yn 2005 yn sgil cael ei benodi'n Uwch-ddarlithydd Clinigol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, mae'n Athro Clinigol Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Feddyg Ymgynghorol mewn Diabetes, Endocrinoleg a Meddygaeth Fewnol Gyffredinol yn Ysbyty Treforys, Abertawe. Mae'n cyfrannu'n weithredol at addysgu ac ymchwil ac mae'n parhau i weithio fel meddyg mewn diabetes, endocrinoleg a meddygaeth gyffredinol. Bu ganddo rolau fel Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Addysg Feddygol ym Mwrdd Iechyd PABM a Deon Cysylltiol ar gyfer Gyrfaoedd Academaidd yn Neoniaeth Cymru. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Ymarferwyr Iechyd Proffesiynol Diabetes UK ac ef yw Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Cynhadledd Broffesiynol Diabetes UK ar gyfer 2020 a 2021. Mae ei waith wedi’i gyhoeddi mewn dros 170 o gyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid