Bay campus header
Mr Johan de Rooy

Mr Johan de Rooy

Darlithydd mewn Cyfrifeg, Accounting and Finance

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Trosolwg

Mae Johan wedi bod yn ddarlithydd prifysgol ers 1984 ym Mhrifysgol Columbia Brydeinig (1984 - 2007), Prifysgol Bolytechnig Hong Kong (2009 - 2016) a Phrifysgol Abertawe (2019 i'r presennol). Drwy gydol yr yrfa wych honno, mae ef wedi bod yn eiriolwr balch a chyson dros broffesiynoldeb cyfrifeg yn gyntaf ac yn bwysicaf oll (dynodiadau). Yn ail, ac yn gysylltiedig â hynny, myfyrwyr israddedig uchelgeisiol sy'n ymdrechu i ragori.

Gan ddefnyddio cyfrwng cyfrifeg, mae ef wedi annog ei ddysgwyr yn frwdfrydig i ddeall grym a rhyfeddod corff gwybodaeth cyfrifeg. Gan ddefnyddio damcaniaeth cyfrifeg, ar y cyd â seicoleg, meddwl yn gadarnhaol, a phrofiadau ymarferol o fywyd/fusnes, mae'n dangos sut mae cyfrifeg yn ased gwerthfawr/gwerth ychwanegol perthnasol iawn ac yn sgìl ar gyfer bywyd. Mae’n ffodus iawn i feddu ar sgìl a brwdfrydedd i wneud Cyfrifeg yn ddiddorol ac yn afaelgar ar gyfer pob math o gynulleidfa.

Drwy gydol ei waith mentora, ei esiampl a'i anogaeth, mae llawer o'i fyfyrwyr wedi cael gyrfaoedd hynod lwyddiannus a dylanwadol. Ychydig iawn o bethau sy'n rhoi mwy o bleser iddo na mentora dysgwr ifanc i anelu at fod yn unigolyn, yn gyflogai ac yn ddinesydd byd llwyddiannus.

Meysydd Arbenigedd

  • Damcaniaeth cyfrifeg ariannol
  • Cyfuno seicoleg gadarnhaol â chyfrifeg
  • Esbonio cyfrifeg i gynulleidfaoedd nad ydynt yn gyfrifwyr
  • Ysgogi dysgwyr i fod yn uchelgeisiol
  • Hyfforddi ym maes parodrwydd am gyflogaeth, yn enwedig ar gyfer y dysgwyr ifanc

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Cyfrifeg ariannol a rheoli ar bob lefel.

Prif Wobrau