Swansea University Bay Campus
female smiling

Dr Jennifer Rudd

Uwch Ddarlithydd mewn Arloesedd ac Ymgysylltu, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
204
Ail lawr
Y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Sylwebydd y Cyfryngau

Trosolwg

Mae Dr Rudd yn newid yn araf o fod yn wyddonydd technegol i fod yn wyddonydd cymdeithasol. Ar ôl degawd o ymchwilio i atebion technolegol i newid yn yr hinsawdd ar ddau gyfandir, fe’i syfrdanwyd yn 2018 i sylweddoli bod lledaenu’r neges am newid yn yr hinsawdd a’i atebion yn bwysicach o lawer nag unrhyw ddarganfyddiad y gallai hi obeithio ei wneud yn y labordy. Mae Dr Rudd yn gyfarwydd â’r economi gylchol o safbwynt cemegol drwy ei gwaith ar baneli solar, yr economi hydrogen a throi carbon deuocsid yn danwyddau. Mewn ymdrech i gyflawni newid go iawn ar lefel ranbarthol, ymunodd â’r rhaglen CEIC fel rheolwr y rhaglen ym mis Medi 2020.

Mae Dr Rudd wedi cyfathrebu am argyfwng yr hinsawdd drwy sgyrsiau cenedlaethol, cyfweliadau radio ac yn y cyfryngau argraffedig a chyflwynodd sgwrs TEDx yn 2019. Mae hi’n cael ei gwahodd yn rheolaidd i gyflwyno sgyrsiau am liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd ac addysg am newid yn yr hinsawdd a chafodd ei henwebu am ddwy wobr ym Mhrifysgol Abertawe yn 2020.

Meysydd Arbenigedd

  • Dal, storio a defnyddio carbon
  • Yr economi gylchol
  • Lliniaru newid yn yr hinsawdd
  • Addysg am newid yn yr hinsawdd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Bu Dr Rudd yn addysgu EGIM16 “Sgiliau cyfathrebu ar gyfer peirianwyr ymchwil” yn 2018 a 2019

Ymchwil Prif Wobrau