Trosolwg
Mae'r Athro Hutchings yn Athro Ymchwil Gwasanaethau Iechyd yn Sefydliad Gwyddor Bywyd 2. Yn ogystal, Hayley yw Cyd-gyfarwyddwr Uned Dreialon Abertawe a Chyfarwyddwr Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil De-orllewin Cymru. Ariennir y ddau gorff gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae Hayley yn rhan o thema Iechyd a Gwybodeg Cleifion a'r Boblogaeth yn yr Ysgol Feddygaeth.
Mae gan Hayley fwy na 25 o flynyddoedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol o ymchwil a threialon yn ymwneud â gwasanaethau iechyd. Mae diddordebau ymchwil Hayley yn cynnwys adnoddau sy'n mesur canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs), treialon a defnyddio data cysylltiedig dienw a gesglir yn rheolaidd. Ar hyn o bryd, mae Hayley yn arwain neu'n darparu mewnbwn i ystod o brosiectau ymchwil yn y meysydd hyn.
Mae gan Hayley hanes llwyddiannus o oruchwylio ac archwilio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ac yn y gorffennol mae hi wedi dal swyddi ar lefel strategol ysgol a phrifysgol i oruchwylio ymchwil ôl-raddedig. Ar hyn o bryd, mae Hayley yn aelod o bwyllgor ymchwil ôl-raddedig yr Ysgol Feddygaeth sy'n helpu i oruchwylio ymchwil gan fyfyrwyr meddygaeth ôl-raddedig yn ogystal â strategaethau.
Ar ben ei swyddi ymchwil, mae Hayley yn goruchwylio myfyrwyr Gwyddorau Meddygol Cymhwysol a Geneteg a Biocemeg fel rhan o'u prosiectau ymchwil israddedig blwyddyn olaf.
Mae Hayley yn darparu mewnbwn ymchwil arbenigol i nifer o bwyllgor cyllid a chyfnodolion meddygol mawr dylanwadol iawn.