Golwg o Gampws Bae
Llun proffil o Dr Giulia Fantini

Dr Giulia Fantini

Darlithydd mewn Cyllid a Chyfrifeg, Accounting and Finance

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
230
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Dr Fantini â Phrifysgol Abertawe ym mis Ionawr 2015 fel Darlithydd Cyllid a Chyfrifeg. Ers 2019, mae wedi meddu ar Gymrodoriaeth uchel ei bri gan yr Academi Addysg Uwch, ac mae ganddi rolau arweinyddiaeth allweddol fel Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Arholiadau (ers mis Gorffennaf 2018) a Swyddog Achosion Uniondeb Academaidd y Brifysgol (ers mis Ebrill 2023). Mae taith academaidd Dr Fantini yn cynnwys cyfraniad sylweddol fel Cynorthwy-ydd Ymchwil yng Nghanolfan Ragoriaeth SAFE,  House of Finance, Prifysgol Goethe, Frankfurt, yr Almaen, a chyflawni PhD Ewropeaidd mewn Economeg ym mis Ebrill 2014 o Brifysgol Ferrara, yr Eidal, ar y cyd â Bayes (Ysgol Fusnes Cass gynt), Llundain, y Deyrnas Unedig.

Mae ei gwaith ymchwil, sy'n rhychwantu cydnabyddiaeth ariannol uwch-weithredwyr, datgeliadau corfforaethol, llywodraethu corfforaethol, BBaCh, newid yn yr hinsawdd mewn cyllid a chyfrifeg a chategorïau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG), yn cael ei amlygu mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid. Derbynnydd Grant Ymchwil Bach Leverhulme yr Academi Brydeinig, mae Dr Fantini'n archwilio'r croestoriad rhwng arweinyddiaeth gorfforaethol a thrawsnewid ESG gan ddefnyddio data mawr a dulliau AI/Dysgu Peirianyddol. Gyda thros 5 mlynedd o brofiad yn y diwydiant fel Cyfrifydd Siartredig ac Archwilydd cymwysedig yn yr Eidal ac yn Lwcsembwrg, mae Dr Fantini'n cyflwyno safbwynt ymarferol i'w hymdrechion academaidd. Yn nodedig, mae'n gwasanaethu fel Prif Oruchwylydd myfyriwr PhD sy'n archwilio Amrywiaeth Rhywedd ar Fyrddau (BGD) a Newid yn yr Hinsawdd ac mae'n croesawu ceisiadau am PhD a chyfleoedd ar gyfer cydweithrediadau ymchwil sy’n ennyn ei diddordeb.

Meysydd Arbenigedd

  • Cydnabyddiaeth Ariannol Uwch-weithredwyr
  • Datgeliad
  • ESG a Newid yn yr hinsawdd
  • Llywodraethu Corfforaethol
  • Cyllid Corfforaethol
  • Busnesau Bach a Chanolig
  • Dadansoddi Data

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae gan Dr Fantini arbenigedd helaeth mewn dylunio, arwain a chyflwyno modiwlau Cyllid a Chyfrifeg cyflwyniadol ac uwch, gyda ffocws ar Gyfrifeg Ariannol, Adrodd Ariannol Cynaliadwy, a Rheoli Cyllid Rhyngwladol.

Ymchwil Prif Wobrau