Trosolwg
Gerard Clarke yw Pennaeth yr Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol a'r Athro Cyswllt Gwleidyddiaeth a Datblygu Rhyngwladol. Mae'n arbenigo yn y rhyngwyneb rhwng gwleidyddiaeth a datblygu rhyngwladol, ac mewn gwleidyddiaeth yn y De Byd-eang. Mae llawer o'i ymchwil wedi bod ar natur cymdeithas sifil a sefydliadau cymdeithas sifil, yn enwedig sefydliadau anllywodraethol, o ran datblygu cyd-destunau gwledydd, gan ganolbwyntio'n ddiweddar ar gymdeithas sifil fyd-eang. Yn ogystal, mae'n canolbwyntio ar bolisi ac arfer datblygu, gan gynnwys cymorth ar gyfer cymdeithas sifil ac ar gyfer dulliau datblygu sy'n seiliedig ar hawliau. Mae hefyd yn cynnal ymchwil i ddatblygu o fewn gwledydd a rhanbarthau penodol (yn enwedig yn Ynysoedd y Pilipinas ac yn Ne-ddwyrain Asia).
Graddiodd o Brifysgol Limerick, cwblhaodd radd M.Sc.(Econ) mewn Llywodraeth Gymarol yn y London School of Economics, gan raddio gyda rhagoriaeth. Ar ôl gweithio gyda Cymorth Cristnogol yn Llundain am ddwy flynedd, cwblhaodd ei ddoethuriaeth ar Wleidyddiaeth y Pilipinas yn yr Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd (SOAS) gyda chyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Mae wedi gweithio fel ymgynghorydd i nifer o sefydliadau, gan gynnwys yr Adran Datblygu Rhyngwladol, Banc y Byd a'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, gan weithio mewn mwy nag 20 o wledydd. Ymunodd â'r Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol yn 2010 ac ers hynny mae wedi gweithio ar brosiectau ymchwil a ariannwyd gan yr Academi Brydeinig, Sefydliad y Gymanwlad a Sefydliad Ymchwil yr Almaen. Mae'n aelod o Gyngor Adolygu Cymheiriaid y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod neu mae ar hyn o bryd yn arholwr allanol yng Ngholeg Prifysgol Llundain, Prifysgol Manceinion a’r London School of Economics.