Trosolwg
Rwy'n Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ac yn arbenigo yng ngwleidyddiaeth actio mewn dramâu a mynd i weld dramâu yn Llundain yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg a pharhad dramâu o'r cyfnod hwn mewn canrifoedd diweddarach, gan gynnwys y ganrif sydd ohoni. Fi yw awdur ‘Public’ and ‘Private’ Playhouses in Renaissance England (Palgrave, 2015) ac mae fy ngwaith ar y berthynas rhwng llyfrau, theatr a hanes perfformio wedi ymddangos mewn cyfnodolion gan gynnwys Shakespeare Survey, Shakespeare Bulletin ac Early Theatre, yn ogystal â chasgliadau wedi'u golygu fel Christopher Marlowe, Theatrical Commerce and the Book Trade (Cambridge University Press, 2018).
Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar Shakespeare's Successors, llyfr am yr awduron a gymerodd le Shakespeare yn y King's Men ar ôl iddo ymddeol. Gyda'r Athro Farah Karim-Cooper (Shakespeare's Globe) rwy'n cyd-olygu rhifyn arbennig o'r cyfnodolyn Shakespeare sy'n deillio o Gynhadledd Cymdeithas Shakespeare Prydain ar Shakespeare, Race and Nation, a drefnais yn Abertawe ym mis Gorffennaf 2019. Gyda Dr Harry Newman (Royal Holloway), rwy'n cyd-olygu casgliad o draethodau ar gyfer Cambridge University Press o'r enw Reprints and Revivals of Renaissance Drama.
Yn Abertawe rwy'n addysgu drama ar bob lefel o’r rhaglen israddedig ac ar lefel ôl-raddedig. Ar hyn o bryd fi yw Cyfarwyddwr Rhaglen yr MA mewn English Literature a'r MA Welsh Writing in English. Mae croeso i unrhyw ddarpar fyfyrwyr gysylltu â mi i drafod y naill raglen neu'r llall.
Byddwn wrth fy modd yn trafod goruchwyliaeth ymchwil gydag unrhyw fyfyriwr sydd â diddordeb mewn unrhyw agwedd ar theatr y cyfnod modern cynnar.