An aerial view of Singleton Campus
A head shot of Miraj

Dr Miraji Mohamed

Aelod Cyswllt
Law

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Miraji Mohamed yn gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yn y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC) ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi'n ymchwilydd rhyngddisgyblaethol sy'n gweithio yn y croestoriad rhwng dadansoddi gwrthdaro, astudiaethau heddwch ac astudiaethau ieuenctid. Yn benodol, cysyniadoli 'radicaleiddio' ac 'eithafiaeth' a'r effaith y maent yn ei chael ar yr agenda Ieuenctid, Heddwch a Diogelwch.

Cafodd ei PhD o Brifysgol Dinas Dulyn. Gwnaeth ei hymchwil ddoethurol archwilio trafodaethau newydd ar 'radicaleiddio' â'r nod o ddeall sut mae llunwyr polisi, cymdeithas sifil a'r cyfryngau yn trin a thrafod sut y deellir bygythiadau diogelwch. Mae ei chyhoeddiadau wedi ymddangos yn y Palgrave Encyclopaedia of Peace and Conflict Studies a'r Media, War & Conflict Journal.

Meysydd Arbenigedd

  • Eithafiaeth a'r Cyfryngau Newydd
  • Rhywedd ac Eithafiaeth
  • Dadansoddi Mynegiant yn Feirniadol
  • Dadansoddi cynnwys
  • Atal/Gwrthsefyll Eithafiaeth Dreisgar
  • Radicaleiddio
  • Ieuenctid, Heddwch a Diogelwch
  • Cynrychiolaethau o Rywedd yn y Cyfryngau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Rhywedd ac Eithafiaeth
  • Trais, Gwrthdaro a Datblygu
  • Dulliau Ymchwil Ansoddol
  • Ieuenctid, Heddwch a Diogelwch
  • Cynrychiolaethau o Rywedd yn y Cyfryngau
Prif Wobrau