Trosolwg
David yw Cyfarwyddwr Rhaglen Rheoli Busnes Israddedig yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe gan ddarlithio mewn Entrepreneuriaeth a Rheoli Prosiectau. Ar ôl gweithio mewn diwydiant am 20 mlynedd yn arbenigo mewn Gwerthiannau, Marchnata a Datblygu Busnes ac mewn cymorth economaidd a busnes i Lywodraeth Cymru, dychwelodd i'r byd academaidd yn 2013.
Ers ymuno â Phrifysgol Abertawe ym 2013 mae wedi bod ynghlwm wrth nifer o fentrau, yn fwyaf nodedig datblygu modiwlau traws-gampws, gan ganolbwyntio ar isg entrepreneuraidd ac arweinyddiaeth, yn yr Ysgol Reolaeth.
Mae David wedi canolbwyntio ar gyfrannu a chynorthwyo'r broses o ddatblygu modiwlau arloesi a menter a chyfeiriad strategol yn ogystal â datblygu modiwlau sgiliau proffesiynol ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig, yn genedlaethol yn y DU ac o safbwynt rhyngwladol sy'n arbenigo yn y sector addysg Tsieineaidd.
Mae David yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch, y Sefydliad Rheolaeth Siartredig a'r Rhaglen Addysgwyr Menter Rhyngwladol.
Ar hyn o bryd, mae'n Is-gadeirydd Rhanbarthol Cymru ar y Sefydliad Rheolaeth Siartredig ac yn un o Brif Gyfarwyddwyr Bwrdd Menter Addysgwyr y DU. Mae hefyd yn arholwr a dilysydd allanol ym Mhrifysgol South Bank Llundain, Prifysgol Coventry a'r Brifysgol Amaethyddol Frenhinol.