Mr David Daycock

Athro Cyswllt Er Anrhydedd, Humanities and Social Sciences - Faculty

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

David yw Cydlynydd Astudiaethau Proffesiynol Cyfreithiol Ysgol y Gyfraith Abertawe ac mae hefyd yn addysgu Cyfraith Gyhoeddus a chyrsiau arbenigol Proffesiynol. Mae David yn gweithio fel Bargyfreithiwr yn Siambrau Iscoed Abertawe, lle mae'n arbenigo mewn Cyfraith Gyhoeddus a Llywodraeth Leol. Mae hefyd yn glerc ac yn Swyddog Monitro i Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru a bu gynt yn Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol ac yn Swyddog yng Nghyngor Abertawe ac yn Is-gadeirydd Legal Wales.

Ac yntau gynt yn Gyfreithiwr, treuliodd David dros 20 mlynedd mewn Llywodraeth Leol. Bu’n Bennaeth Ymgyfreitha i ddechrau cyn rheoli tîm o dros 50 o Gyfreithwyr a Bargyfreithwyr yn y pen draw ac roedd yn allweddol i alluogi'r tîm i fod yr Adran gyfreithiol gyntaf yn y sector cyhoeddus i ennill achrediad LEXCEL a Buddsoddwr mewn Pobl yn 2000.

Mae David wedi addysgu'r gyfraith ers bron i 30 mlynedd mewn nifer o gyrff addysg ac roedd yn arholwr allanol ar gyfer Prifysgol Birmingham.

Mae ganddo brofiad sylweddol o hyfforddi yn y sectorau cyhoeddus a phreifat hefyd ac mae'n darparu hyfforddiant rheolaidd i gyrff fel Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd a'r Sefydliad Trwyddedu.