Trosolwg
Mae diddordebau ymchwil Caroline mewn Cyfraith Teulu a Chyfraith Gofal Iechyd.
Mae gan Caroline ddiddordeb penodol ym mhrosesau llunio'r gyfraith a'i heffaith ehangach, yn enwedig rôl cyfreithia mewn achosion prawf wrth lunio Cyfraith Gofal Iechyd. Mae Caroline wedi archwilio deddfu cuddiedig yn y cyd-destun hwn gyda Hazel Biggs (Emeritws, Prifysgol Southampton) a Jonathan Montgomery (UCL); ac yn fwy diweddar
mae wedi myfyrio ar ymagweddau bywgraffiadol at astudio achosion prawf gyda Jonathan Montgomery (UCL). Mae hi bellach yn gweithio ar drydedd erthygl yn y rhaglen ymchwil ehangach hon.
Yn ogystal, mae ganddi ddiddordeb yn y materion cyfreithiol sy'n deillio o ddatblygu a defnyddio deallusrwydd artiffisial a systemau cefnogi penderfyniadau clinigol, ac mae hi wedi bod yn gweithio gyda Jeremy Wyatt (Southampton) a James Thornton (Nottingham Trent) ar brosiectau yn y maes hwn. Yn 2022, sicrhawyd cyllid o'r BA/cynllun Grantiau Bach Leverhulme ar gyfer cynnal prosiect gyda James Thornton (Nottingham Trent), Age Chapman (Southampton), Jeremy C Wyatt (Emeritws, Southampton), a'r elusen Gymreig Adferiad i archwilio materion ymddiriedaeth a dibynadwyedd mewn perthynas â defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Canolbwyntiodd ymchwil flaenorol Caroline ar lunio polisi cyhoeddus a dehongliadau cymdeithasol-gyfreithiol o gyfrifoldebau rhieni a charennydd. Mae ganddi ddiddordeb brwd ym materion cenhedlu drwy roddwyr, hunaniaeth, benthyg croth, clonio a rheoleiddio cenhedlu â chymorth yn fwy cyffredinol.
Mae hi'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.