Trosolwg
Dr Clare Wood yw Pennaeth yr Adran Peirianneg Sifil ac mae’n Athro Cysylltiol mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddi radd Meistr israddedig mewn Peirianneg Sifil gyda Phensaernïaeth (Dosbarth 1af, Prifysgol Glasgow 2002) a gradd Meistr ôl-raddedig a PhD mewn Dulliau Cyfrifiadol ar gyfer Peirianneg (Prifysgol Abertawe 2003 a 2007). Enillodd wobr gan Gymdeithas Mecaneg Gyfrifiadol y DU am y papur PhD gorau yn 2007.
Mae ganddi brofiad helaeth o gydweithrediadau ymchwil ac â byd diwydiant ac mae'n arbenigwr mewn dulliau cyfrifiadol ar gyfer peirianneg ac archwiliadau arbrofol o ran deunyddiau adeiladu cynaliadwy, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddeunyddiau smentaidd a chynhyrchion concrit carbon isel.
Ar hyn o bryd mae'n arwain nifer o brosiectau ymchwil ar y cyd â byd diwydiant ar themâu sy'n cynnwys deunyddiau, cynaliadwyedd a bioamrywiaeth ac mae'n brif oruchwyliwr ymchwil ôl-raddedig ar y pynciau hyn yn ogystal â themâu arweinyddiaeth peirianneg ac ymarfer cynaliadwy.