Trosolwg
Mae addysgu Cerys Davies yn elwa o'i phrofiad proffesiynol yn sector y gyfraith - fel swyddog heddlu gyda Heddlu Dyfed Powys ac fel cyfreithiwr sy’n arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth. Astudiodd y Gyfraith ym mhrifysgolion Rhydychen, Caerdydd a De Cymru ac yn ddiweddarach, enillodd ei TAR gan PYDDS.
Mae ei chefndir proffesiynol ynghyd â’i gyrfa addysgol wedi llunio ei hymrwymiad addysgegol i sicrhau bod myfyrwyr yn astudio'r gyfraith mewn modd sy'n ymarferol ac yn berthnasol. Mae Cerys yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn eiriolwr brwd dros hyrwyddo'r iaith mewn cyd-destunau addysgol a chyfreithiol fel ei gilydd. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn sicrhau bod myfyrwyr yn meithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol, ochr yn ochr wrth ehangu eu gwybodaeth.
Mae Cerys yn diwtor ar fodiwlau Cyfraith Camweddau'r Flwyddyn Gyntaf a modiwlau Cyfraith Trosedd yr Ail Flwyddyn (gan gynnwys cynnal seminarau drwy gyfrwng y Gymraeg yn y ddau faes pwnc), mae hi’n Gyfarwyddwr Modiwl Cyfraith Camweddau II yn Semester 2 ac mae’n goruchwylio'r Ddesg Gymorth i Ymgyfreithwyr yn y Ganolfan Cyfiawnder Sifil a Theuluoedd.