Trosolwg
Mae Bridie Angela Evans yn ymchwilydd ansoddol gyda diddordeb arbennig mewn ymchwil cydweithredol rhwng cleifion, gofalwyr, aelodau’r cyhoedd, cymunedau ac ymchwilwyr. Mae’n arwain Cynnwys ac ymgysylltu â’r Cyhoedd Canolfan PRIME Cymru (http://www.primecentre.wales/) ac yn rhan o’r tîm Ymchwil Gwasanaethau Iechyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Roedd ei Doethuriaeth yn ymwneud â strwythurau, prosesau ac effeithiau cynnwys cleifion mewn rhaglen ymchwil am reoli cyflyrau cronig. Yn ystod hyn, cydweithiodd â nifer o gleifion a gofalwyr i gynhyrchu ar y cyd grŵp o’r enw SUCCESS (Service Users with Chronic Conditions Encouraging Sensible Solutions). Gan adeiladu ar y profiad hwn, aeth ati i gydgysylltu’r gwaith o ddatblygu grŵp o’r cyhoedd/cleifion o’r enw SUPER (Service Users for Primary and Emergency care Research), y mae’n ei gefnogi.
Mae datblygu a chyflawni ymchwil ym maes gwasanaethau iechyd sy’n cynnwys cleifion ac aelodau’r cyhoedd yn flaenoriaeth yn Nhîm Ymchwil y Gwasanaethau Iechyd. Mae’r dull hwn o weithio wedi’i anrhydeddu gyda gwobrau am gyfraniad at yr astudiaeth SAFER 2 a’r astudiaeth HEAR.
Mae Bridie yn arwain ac yn cyflawni gwaith ymchwil mewn timau hefyd sy’n astudio ffyrdd o wella darpariaeth gwasanaethau gofal sylfaenol a chyn mynd i’r ysbyty.