Trosolwg
Rwy'n ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol sydd wedi cwblhau Cymrodoriaeth Gyrfa Gynnar ESRC ym Mhrifysgol Abertawe yn ddiweddar. Mae gen i PhD mewn Daearyddiaeth Ddynol (Prifysgol Abertawe, 2018), MSc mewn Dynameg Amgylcheddol a'r Newid yn yr Hinsawdd (Prifysgol Abertawe, 2012, Rhagoriaeth), a BA mewn Daearyddiaeth (Prifysgol Caergrawnt, 2007, Anrhydedd Dosbarth Cyntaf).
Rwy'n ymddiddori yn y croestoriadau rhwng daearyddiaeth ddiwylliannol, ecoleg a'r hinsawdd, sef ymagwedd sy'n cyd-fynd ag amcanion y Dyniaethau Amgylcheddol. Mae'r Dyniaethau Amgylcheddol yn faes ysgolheictod sy'n datblygu ac mae’n ymgysylltu â chwestiynau sylfaenol am ystyr, gwerth, cyfrifoldeb a phwrpas mewn cyfnod o newid amgylcheddol cyflym, ac yn manteisio ar fewnwelediad o'r celfyddydau a'r dyniaethau i helpu i ddeall ac ymateb i'r newid hwn. Rwy'n ymddiddori'n arbennig yn y berthynas rhwng pobl a'r byd mwy na dynol, a sut mae'r cydberthnasau hyn yn cael eu llywio gan straeon a naratifau. Yn hyn o beth, mae fy ngwaith ymchwil presennol yn canolbwyntio ar arferion plannu coed ar gyfer dal a storio carbon.