bay campus image
Dr Annie Tubadji

Dr Annie Tubadji

Uwch-ddarlithydd, Economics

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Annie Tubadji yn Uwch Ddarlithydd mewn Economeg. Mae hi'n economegydd diwylliannol sy'n addysgu economeg a dulliau ymchwil. Mae Annie hefyd wedi gweithio yn: Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste, y DU; Prifysgol Bologna, yr Eidal; Prifysgol yr Aes, Gwlad Groeg; Sefydliad Ymchwil Cyflogaeth (IAB), yr Almaen; yn ogystal â UNDP, UNICEF a'r Asiantaeth Wladol ar gyfer Dadansoddi a Chynllunio, y Weinyddiaeth Gyllid, Bwlgaria (fel rhan o Dîm Strategol yr UE-NSRF, 2007). Mae hi'n ddeiliad Ysgoloriaeth Shakle yn St. Edmunds, Prifysgol Caergrawnt, y DU ar gyfer 2015-2016. Cyflawnodd Annie ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Regensburg, yr Almaen yn 2011. ​ Prif feysydd arbenigedd Annie yw Economeg Ddiwylliannol Newydd (NCE) ac Economeg Ranbarthol. Mae hi'n canolbwyntio ar y gogwydd diwylliannol mewn dewis economaidd fel swyddogaeth y rhyngweithio rhwng y lefelau micro a macro. Mae Annie yn ymchwilydd gweithgar, yn cyhoeddi ei gwaith ymchwil ac yn ei gyflwyno mewn lleoliadau cyhoeddi academaidd adnabyddus ac mewn digwyddiadau academaidd rhyngwladol a rhai sy’n ymwneud â llunio polisi.

Annie oedd Arweinydd y Clwstwr ar gyfer Microeconomeg yng Nghanolfan Economeg a Chyllid Bryste (BCEF) ac yn drefnydd Cyfres Seminarau Ymchwil Economaidd BCEF. Ar hyn o bryd mae hi'n cyd-drefnu gyda Dr. Dilshad Jahan Gyfres Seminarau Adran Economeg Prifysgol Abertawe.

Meysydd Arbenigedd

  • Economeg Ddiwylliannol Newydd (NCE)
  • Economeg Ranbarthol
  • Economeg Hapusrwydd
  • Diwydiannau Creadigol
  • Gwybodaeth ac Arloesi
  • Deallusrwydd Artiffisial
  • Anghydraddoldeb
  • Crefydd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Gelwir ei pharadeim gwaith yn ddull Datblygu Seiliedig ar Ddiwylliant (CBD). Mae cyfraniadau Annie yn ymdrin â gwaith empirig yn bennaf mewn economeg ranbarthol a thwf economaidd, economeg lafur, economeg arloesi ac entrepreneuriaeth. Mae hi wedi gweithio ar bynciau ymfudo, amrywiaeth, y dosbarth creadigol, cyfalaf cymdeithasol, crefydd, arloesi ac ansicrwydd. Mae ei diddordebau ymchwil cyfredol yn cynnwys economeg hapusrwydd, athroniaeth foesol ac anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol.

Prif Wobrau