Trosolwg
Ar ôl datblygu diddordeb mewn dychan gwleidyddol ar y teledu, a sut roedd yn cyfleu newyddion gwleidyddol mewn ffordd wahanol, gadawodd Allaina ei swydd yn y sector yswiriant a chofrestrodd ar gwrs Mynediad i Addysg Uwch gyda'r nod o astudio newyddiaduraeth. Ers hynny, mae Allaina wedi dod yn ddarlithydd ac ymchwilydd amlddisgyblaethol ym maes newyddiaduraeth ac astudiaethau hiwmor, gan addysgu myfyrwyr o ddemograffeg amrywiol, o ehangu mynediad i ddoethuriaeth. Cyn dechrau ei swydd ym Mhrifysgol Abertawe, roedd Allaina yn Athro Cynorthwyol yn yr Ysgol Cyfathrebu Rhyngwladol ar gampws Tsieina Prifysgol Nottingham a chyn hynny bu'n gweithio fel darlithydd ac ymchwilydd ym Mhrifysgol Birmingham City a Phrifysgol Caerdydd.