Professor Ashley Akbari

Yr Athro Ashley Akbari

Athro
Health Data Science

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
306
Trydydd Llawr
Yr Adeilad Gwyddor Data
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Ashley’n Athro  Ymchwil Gwyddor Data Poblogaethau yng Ngwyddor Data Poblogaethau, Prifysgol Abertawe. Ac yntau wedi gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ers 2008, mae Ashley'n chwarae rôl sylweddol mewn rhaglenni a phrosiectau ymchwil mawr gan ddefnyddio data ar raddfa y boblogaeth, yn bennaf, drwy Fanc Data SAIL. Gan hyrwyddo Gwyddoniaeth Tîm, mae Ashley’n arwain ac yn cydweithio â grwpiau amlddisgyblaethol ac amlsefydliadol i ddatblygu a chyflwyno ymchwil gan hyrwyddo deilliannau dysgu y gellir eu troi'n bolisi ar draws y byd academaidd, a llywodraeth, er mwyn gwella gwasanaethau a bywydau pobl. Mae gan Ashley ddiddordeb penodol mewn hyrwyddo gwyddoniaeth tîm a datblygu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr data.

Meysydd Arbenigedd

  • Gwyddor Data Poblogaeth
  • Iechyd Poblogaethau
  • Iechyd y Cyhoedd
  • Epidemioleg
  • Data a chysylltiadau arferol
  • Iaith Ymholiadau Strwythuredig (SQL)
  • Rheoli Prosiectau a Rhaglenni
  • Rheoli prosiectau yn Ystwyth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae gan Ashley ddiddordeb mewn addysgu a datblygu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr ac ymchwilwyr data drwy gymysgedd o gyfleoedd theori ac ymarferol, ac mae’n cefnogi ac yn datblygu arbenigedd drwy gymysgedd o gyfryngau gan gynnwys addysgu ffurfiol, gweithdai a chyflwyno prosiect. Ashley yw Cyfarwyddwr Rhaglen Interniaeth Gwyddor Data Poblogaethau, sy'n darparu cyfleoedd i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddatblygu eu sgiliau drwy leoliad gwaith a ariennir yn ystod eu gwyliau haf rhwng blynyddoedd academaidd, gan ddod yn rhan o dîm ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang drwy ddarparu a datblygu deilliannau ymchwil technegol, methodolegol a rhai eraill.

Ymchwil Cydweithrediadau