Ein cartref newydd ar Gampws y Bae
Mae'r Coleg Peirianneg a'r Ysgol Reolaeth wedi symud i Gampws y Bae ar ôl cynnig graddau ar Gampws Parc Singleton ers 95 mlynedd.
Mae'r broses o'u symud yn golygu bod Prifysgol Abertawe bellach yn brifysgol â dau gampws. Mae'r holl bynciau eraill a'r brif ganolfan sefydliadol yn dal i fod ar Gampws Parc Singleton.
Mae Campws y Bae mewn lleoliad gwych wrth ymyl y traeth ar y ffordd ddwyreiniol i mewn i Abertawe, ac mae ganddo ei bromenâd ei hun.
Mae Campws y Bae yn cynnwys Ardal Beirianneg helaeth a gynlluniwyd i fanteisio ar ein harbenigedd ymchwil a'r gwaith rydym yn ei wneud ar y cyd â chwmnïau mawr, sy'n cynnwys Rolls-Royce a Tata Steel.