Byddwch yn rhan o’n llwyddiant
Rydym yn falch o lwyddiant ein staff academaidd a’n graddedigion a’r gwaith maen nhw’n ei wneud i beiriannu ein dyfodol.
Mae ein hymchwil o safon ryngwladol, ein cysylltiad â diwydiant a’n cyfleusterau rhagorol, yn rhoi dechrau gwych i yrfa ein staff a’n myfyrwyr.
Mae ein gwaith yn cynnwys yr ymgais i dorri Record Cyflymder Tir y Byd, datrys y prinder dŵr yn y byd a chydweithio â chwmnïau byd-enwog. Dyma rai enghreifftiau yn unig o’r gweithgareddau sy’n digwydd yma.
Ffeithiau amdanom ni
- Safle yn y 10 Uchaf (REF 2014)
- Graddau achrededig mewn amrywiaeth o feysydd peirianneg
- Cafwyd £120 miliwn o gyllid ymchwil ers 2008
- Addysgu eithriadol graddfa 5 seren