OPSIYNAU PRENTISIAETH A THROSOLWG O’R CWRS
Manylion allweddol y cwrs | |
---|---|
Dyddiad cychwyn | Mis Medi |
Ffioedd dysgu |
£9000 y flwyddyn |
Lleoliad |
Coleg Cambria yn bennaf, Glannau Dyfrdwy |
Cyfarwyddwr y Rhaglen |
Opsiynau Prentisiaeth
Gradd Sylfaen - Rhaglen 2 flynedd yw hon. Y cymhwyster olaf fydd Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Awyrenneg a Gweithgynhyrchu.
Prentisiaeth Gradd BEng - Dyma'r rhaglen 3 blynedd lawn. Y cymhwyster olaf fydd BEng mewn Peirianneg Awyrenneg a Gweithgynhyrchu.
Y Gymdeithas Awyrenneg Frenhinol (RAeS) sy’n achredu’r rhaglenni Blwyddyn Sylfaen a Throsglwyddo BEng. Rydyn ni wrthi’n ceisio achrediad ar gyfer y rhaglen Prentisiaeth Gradd BEng.
Trosolwg o'r Cwrs
Cwricwlwm eang yw’r Brentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Awyrenneg a Gweithgynhyrchu sy'n ymdrin ag agweddau ar beirianneg fecanyddol ac awyrenneg, dylunio peirianegol, deunyddiau, dulliau gweithgynhyrchu, aerodynameg, dadansoddi a modelu rhifiadol yn ogystal â hanfodion sylfaenol mathemateg, egwyddorion peirianneg a methodolegau dylunio.
Gan ddefnyddio'r Fframwaith ar gyfer Prentisiaethau Gradd mewn Peirianneg ac Uwchweithgynhyrchu, diben y rhaglen hon yw bodloni’r holl elfennau craidd (adrannau 1 i 5) i sicrhau bod gan ein graddedigion wybodaeth gyflawn a rhyngddisgyblaethol a fydd yn eu paratoi ar gyfer dyfodol y sector peirianegol. Cafwyd achrediad proffesiynol RAeS yn 2018 ar gyfer fersiwn flaenorol y rhaglen hon, sef cyfuniad o FdEng a BEng, a byddwn ni’n ceisio ennill ailachrediad y Brentisiaeth Gradd ddiweddaraf cyn gynted ag y bo modd.
Dyluniwyd y rhaglen ar gyfer dysgwyr a gyflogir yn y sector peirianegol, gan mai dymuniad cwmnïau fwyfwy yw cyflogi pobl â chymwysterau da sy’n gadael yr ysgol a'u cyfeirio trwy gynllun prentisiaeth gradd wedi’i sefydlu yn hytrach na chyflogi graddedigion. Mae Prentisiaeth Gradd BEng yn llwybr deniadol i gyflogeion presennol neu'r rheiny sydd wedi dilyn llwybr cymhwyster galwedigaethol yn y sector AB i ennill cymhwyster lefel gradd, gan y gellir ennill y cymhwyster ochr yn ochr â phrofiad ym myd diwydiant, a bydd llai o ddyled ar gyfer y myfyriwr.
Partneriaeth a gyflenwir ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe, Coleg Cambria a'r cwmnïau sy’n cyflogi yw’r radd BEng, a ddyfernir gan Brifysgol Abertawe. Prifysgol Abertawe sy’n dyfarnu’r graddau.