Sgip i brif cynnwys Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Menu Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Rhaglenni Ymchwil
  4. Cyrsiau Ymchwil Meddygaeth i Ôl-Raddedigion
  5. Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd, M.D.
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored Rhithwir
      Student sat at a laptop wearing headphones

      Diwrnodau Agored Israddedig ac Ôl-raddedig

      Cofrestrwch nawr
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Rhieni a Gwarcheidwaid
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Clirio ym Abertawe
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Pythefnos y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ymchwil
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Canmlwyddiant 2020
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Iechyd a Ffitrwydd
      • Perfformiad ac Ysgoloriaethau
      • Chwaraeon i fyfyrwyr - Chwaraeon Myfyriwr
      • Rhaglenni a Digwyddiadau
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Llefydd i Fwyta ar Gampws
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Colegau Academaidd
      • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
      • Coleg Peirianneg
      • Gwyddorau Dynol ac Iechyd
      • Ysgol y Gyfraith
      • Yr Ysgol Reolaeth
      • Ysgol Feddygaeth
      • Y Coleg Gwyddoniaeth
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Rhaglenni Ymchwil
  4. Cyrsiau Ymchwil Meddygaeth i Ôl-Raddedigion
  5. Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd, M.D.

Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd, M.D.

Tudalennau cysylltiedig
  • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
  • Cyflwyniad i astudiaeth ôl-radd
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  • Cysylltu â'r tîm Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig
  • Myfyrwyr presennol
  • Sut i Wneud Cais am Gwrs Ôl-raddedig a Addysgir
  • Rhaglenni Ymchwil
    • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
    • Ymchwil yn y Coleg Peirianneg
    • Cyrsiau ymchwil Ôl-raddedig y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol Y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Ymchwil Meddygaeth i Ôl-Raddedigion
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Reolaeth
  • Ffioedd ac ariannu
  • Diwrnodau Agored Ôl-raddedig
  • Gwneud cais
  • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
  • Llety
  • Pam astudio yn Abertawe?
  • Academi Hywel Teifi
  • Bywyd Myfyriwr
  • Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
  • Gwybodaeth i rieni
  • Cofrestru a sefydlu
  • Ymholiad Ôl-raddedig
  • Newidiadau rhaglen ôl-raddedig
  • Cyflwyno Ein Myfyrwyr Ôl-Raddedig
  • Prosbectws Ôl-raddedig
Ymgeisio
Diwrnod Agored
Cadwch Mewn Cysylltiad

Brig ar gyfer amgylchedd ymchwil

Manylion Allweddol y Cwrs

  • D.U.
  • U.E.
  • Rhyngwladol
M.D. 2 Flynedd Llawn Amser
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Ebr neu Gor 2021 £ 4,407
Hyd 2021 neu Ion, Ebr neu Gor 2022 £ 4,500
M.D. 4 Blynedd Rhan Amser
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Ebr neu Gor 2021 £ 2,203.50
Hyd 2021 neu Ion, Ebr neu Gor 2022 £ 2,250
M.D. 2 Flynedd Llawn Amser
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Ebr neu Gor 2021 £ 4,407
Hyd 2021 neu Ion, Ebr neu Gor 2022 £ 21,250
M.D. 4 Blynedd Rhan Amser
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Ebr neu Gor 2021 £ 2,203.50
Hyd 2021 neu Ion, Ebr neu Gor 2022 £ 10,650
M.D. 2 Flynedd Llawn Amser
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Ebr neu Gor 2021 £ 20,650
Hyd 2021 neu Ion, Ebr neu Gor 2022 £ 21,250
M.D. 4 Blynedd Rhan Amser
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Ebr neu Gor 2021 £ 10,350
Hyd 2021 neu Ion, Ebr neu Gor 2022 £ 10,650

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r cwrs MD mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd yn seiliedig ar bedair thema allweddol: Biofarcwyr a Genynnau; Dyfeisiau; Microbau ac Imiwnedd; Iechyd a Gwybodeg Cleifion a'r Boblogaeth. Mae ein rhaglen yn addas i ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'r pynciau hyn ac sydd am weithio ar broblemau meddygol cymhleth sydd ag effeithiau biolegol a chymdeithasol.

Hefyd, mae gennym gysylltiadau cryf â'r GIG ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â diddordeb ymchwil glinigol mewn:

  • Damweiniau
  • Heneiddio
  • Triniaeth ddydd
  • Llosgiadau a phlastigau
  • Canser
  • Clefyd cardiofasgwlaidd
  • Diabetes
  • Epilepsi
  • Gastroenteroleg
  • Ysbyty gartref
  • Clefydau heintus
  • Gofal cyn ysbyty
  • Seiciatreg
  • Rhiwmatoleg
  • Llawdriniaeth oherwydd trawma

Bydd eich rhaglen dwy flynedd llawn amser, neu bedair blynedd rhan amser, yn cynnwys:

  • Dysgu seiliedig ar ymarfer
  • Tîm goruchwylio â goruchwylwyr enwebedig
  • Byddwch yn cael budd o sgiliau'r gymuned academaidd ehangach
  • Seminarau a gweithdai'r rhaglen
  • Mynediad i'r prif gyfleuster ymchwil feddygol bwrpasol yng Nghymru
  • Cydweithio â phartneriaid mewn diwydiant a byd busnes

Yn ystod eich cwrs, byddwch yn cael budd o'n cyfleusterau arbenigol uchel eu parch a'n rhaglenni ymchwil sy'n sgorio'n uchel. Cangen ymchwil ac arloesedd Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe yw'r Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS). Y weledigaeth ar gyfer ILS yw datblygu gwyddor feddygol drwy ymchwil ac arloesedd rhyngddisgyblaethol er mwyn gwella iechyd, cyfoeth a llesiant pobl Cymru a thu hwnt.

  • Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn ganolfan ymchwil feddygol flaenllaw yn y DU
  • Cyntaf yn y DU am Amgylchedd Ymchwil
  • Ail yn y DU am Ansawdd Ymchwil
  • 100% o'r radd flaenaf neu'n rhyngwladol ardderchog o ran effaith (REF 2014)
  • Bydd myfyrwyr ôl-raddedig yn gallu defnyddio cyfleusterau'r Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS) gwerth £100 miliwn)
  • Academyddion yn cyflawni ymchwil o'r radd flaenaf
  • Enghraifft unigryw o gydweithio llwyddiannus rhwng y GIG, academia a diwydiant yn y sector gwyddor bywyd ac iechyd
  • Cysylltiadau agos â Cholegau Peirianneg a Gwyddoniaeth, yn enwedig drwy'r Ganolfan NanoIechyd

Mae gennym gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o bartneriaid a chydweithwyr allanol, gan gynnwys y GIG; Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Bwrdd Iechyd Hywel Dda; cyngor ymchwil y DU; Llywodraeth Cymru a sawl cysylltiad cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cysylltiadau hyn, ynghyd â'r sgiliau a'r rhinweddau y byddwch yn eu meithrin yn ystod eich gradd ymchwil yn cyfoethogi eich CV ac yn eich helpu i sefyll allan mewn marchnad gyflogaeth gystadleuol iawn i raddedigion.

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws ol-raddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Astudio trwy’r Gymraeg

welsh medium

Gofynion Mynediad

Fel arfer, byddai ymgeiswyr am le ar gwrs gradd ddoethurol yn meddu ar, neu'n astudio tuag at, radd Meistr o Brifysgol yn y DU neu Brifysgol arall a gymeradwywyd gan y Senedd neu gymhwyster ar lefel debyg. Fel arfer, dylai ymgeiswyr am le ar y cwrs gradd MD feddu ar radd Baglor Meddygaeth neu Lawfeddygaeth.

Disgwylir i bob ymgeisydd nad Saesneg yw ei iaith gyntaf lwyddo yn y prawf IELTS (System Profi Iaith Saesneg Ryngwladol) gyda sgôr o 6.5.

Fel arfer, byddai disgwyl i'r rhai sy'n gwneud cais am le ar y rhaglen hon fodloni'r gofynion mynediad a nodir uchod. Ceidw'r Coleg/Ysgol yr hawl i ofyn am raddau a chymwysterau academaidd uwch. Mae penderfyniadau ynghylch derbyn myfyrwyr yn ystyried nid yn unig gymwysterau academaidd blaenorol, ond hefyd ffactorau sy'n cynnwys safon crynodeb yr ymchwil/y cynnig a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd, ei berfformiad yn y cyfweliad (os oes angen), pa mor ffyrnig yw'r gystadleuaeth am nifer gyfyngedig o leoedd a phrofiad proffesiynol perthnasol (pan fydd yn briodol).

Yn ogystal â chymwysterau academaidd, gellir seilio penderfyniadau ynghylch derbyn myfyrwyr ar ffactorau eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: safon y crynodeb/cynnig ymchwil, perfformiad yn ystod y cyfweliad, lefel y gystadleuaeth am leoedd cyfyngedig a phrofiad proffesiynol perthnasol.

Gofyniad am eirda

Yn arferol, gofynnir am ddau eirda cyn y gallwn anfon ceisiadau i Diwtor Derbyn rhaglenni ymchwil y Coleg/Ysgol i'w hystyried.

Caiff ceisiadau a dderbynnir heb ddau eirda wedi'u hatodi atynt eu gohirio nes y derbynnir y geirda sy'n weddill. Sylwer y gall oedi hir wrth dderbyn y geirda sy'n weddill arwain at ohirio'ch cais tan ddyddiad cychwyn/mis derbyn posib diweddarach, o'i gymharu â'r dyddiad y rhestroch yn gychwynnol fel y dyddiad dechrau o'ch dewis.

Efallai yr hoffech ystyried cysylltu â'ch canolwr (canolwyr) i'n cynorthwyo wrth dderbyn y geirda sy'n weddill neu, fel arall, gallwch ohirio cyflwyno'ch cais nes eich bod wedi dod o hyd i'ch geirda. Sylwer nad cyfrifoldeb Swyddfa Derbyn y Brifysgol yw dod o hyd i'r geirda sy'n weddill ar ôl i ni anfon e-bost cychwynnol at y canolwyr (canolwyr) a enwebwyd gennych, gan ofyn am eirda ar eich rhan chi.

Gall y geirda hwn fod ar ffurf llythyr ar bapur pennawd swyddogol neu gellir ei gyflwyno ar ffurflen geirda safonol y Brifysgol. Cliciwch ar y ddolen hon i lawrlwytho ffurflen geirda'r Brifysgol.

Fel arall, gall canolwyr anfon geirda mewn e-bost o'u cyfrif e-bost gwaith. Sylwer na ellir derbyn geirda a anfonir oddi wrth gyfrifon e-bost preifat, (h.y. Hotmail, Yahoo, Gmail).

Gellir cyflwyno geirda i pgradmissions@abertawe.ac.uk.

Sut rydych chi'n cael eich goruchwylio

Rhoddir tîm goruchwylio i chi a fydd yn cynnwys prif oruchwyliwr a goruchwylwyr eilaidd. Bydd y tîm yn rhoi cymorth academaidd a bugeiliol i chi tra byddwch yn cwblhau eich ymchwil.

Darpariaeth Gymraeg

Mae gan Brifysgol Abertawe nifer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel ôlraddedig ac mae Academi Hywel Teifi yma i'th gefnogi i wneud hynny trwy gydol dy amser gyda ni. Mae gen ti hawl i ysgrifennu a chyflwyno dy waith cwrs ac i sefyll dy arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os wyt wedi dewis dilyn modiwlau cyfrwng Saesneg. Hefyd, mae modd i ti ddewis cael cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth ymgeisio am le.

Gelli astudio o leiaf 80 credyd o'r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg. Gelli astudio cyfyniad o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo'r cyfle a/neu gyflwyno dy draethawd estynedig yn y Gymraeg gydag arweiniad gan arbenigwr pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n bosib y byddi'n gymwys am ysgoloriaeth neu fwrsariaeth os wyt ti'n dewis astudio 80 credyd neu fwy trwy gyfrwng y Gymraeg. Cer i dudalen Ysgoloriaethau Academi Hywel Teifi am fwy o wybodaeth.

Ffioedd Dysgu

M.D. 2 Flynedd Llawn Amser

Dyddiad Dechrau D.U. U.E. Rhyngwladol
Hydref 2020 £ 4,407 £ 4,407 £ 20,650
Ionawr 2021 £ 4,407 £ 4,407 £ 20,650
Ebrill 2021 £ 4,407 £ 4,407 £ 20,650
Gorffennaf 2021 £ 4,407 £ 4,407 £ 20,650
Hydref 2021 £ 4,500 £ 21,250 £ 21,250
Ionawr 2022 £ 4,500 £ 21,250 £ 21,250
Ebrill 2022 £ 4,500 £ 21,250 £ 21,250
Gorffennaf 2022 £ 4,500 £ 21,250 £ 21,250

M.D. 4 Blynedd Rhan Amser

Dyddiad Dechrau D.U. U.E. Rhyngwladol
Hydref 2020 £ 2,203.50 £ 2,203.50 £ 10,350
Ionawr 2021 £ 2,203.50 £ 2,203.50 £ 10,350
Ebrill 2021 £ 2,203.50 £ 2,203.50 £ 10,350
Gorffennaf 2021 £ 2,203.50 £ 2,203.50 £ 10,350
Hydref 2021 £ 2,250 £ 10,650 £ 10,650
Ionawr 2022 £ 2,250 £ 10,650 £ 10,650
Ebrill 2022 £ 2,250 £ 10,650 £ 10,650
Gorffennaf 2022 £ 2,250 £ 10,650 £ 10,650

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

Mae arian gan y llywodraeth bellach ar gael ar gyfer myfyrwyr o Gymru, Lloegr a'r UE sy'n dechrau ar raglenni ymchwil Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais yn Saesneg ar-lein a dilyn statws eich cais gan ddefnyddio ein System On Track.  Neu, rydym yn croesawu ceisiadau Cymraeg drwy'r post neu e-bost:

 

Lawrlwythwch becyn cais

 

 

Amseroedd Arfaethedig ar gyfer Cyflwyno Cais

Er mwyn caniatáu digon o amser i'ch cais gael ei ystyried gan academydd, ac i ganiatáu i amodau cynnig posib megis teithio/adleoli gael eu bodloni, argymhellwn eich bod yn cyflwyno cais cyn y dyddiadau a nodir isod. Sylwer y gellir cyflwyno ceisiadau y tu allan i'r dyddiadau a awgrymir isod o hyd, ond mae'n bosib y gall fod angen gohirio'ch cais/eich cynnig posib i'r dyddiad derbyn priodol nesaf.

Cofrestru ym mis Hydref

Ymgeiswyr o'r DU – 15 Awst

Ymgeiswyr o'r UE/ymgeiswyr rhyngwladol – 15 Gorffennaf

Cofrestru ym mis Ionawr

Ymgeiswyr o'r DU – 15 Tachwedd

Ymgeiswyr o'r UE/ymgeiswyr rhyngwladol – 15 Hydref

Cofrestru ym mis Ebrill

Ymgeiswyr o’r Deyrnas Unedig – 15 Chwefror

Ymgeiswyr o'r UE/ymgeiswyr rhyngwladol – 15 Ionawr

Cofrestru ym mis Gorffennaf

Ymgeiswyr o'r DU – 15 Mai

Ymgeiswyr o'r UE/ymgeiswyr rhyngwladol – 15 Ebrill

  • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
  • Cyflwyniad i astudiaeth ôl-radd
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  • Cysylltu â'r tîm Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig
  • Myfyrwyr presennol
  • Sut i Wneud Cais am Gwrs Ôl-raddedig a Addysgir
  • Rhaglenni Ymchwil
    • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
    • Ymchwil yn y Coleg Peirianneg
    • Cyrsiau ymchwil Ôl-raddedig y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol Y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig Y Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Ymchwil Meddygaeth i Ôl-Raddedigion
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Reolaeth
  • Ffioedd ac ariannu
  • Diwrnodau Agored Ôl-raddedig
  • Gwneud cais
  • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
  • Llety
  • Pam astudio yn Abertawe?
  • Academi Hywel Teifi
  • Bywyd Myfyriwr
  • Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
  • Gwybodaeth i rieni
  • Cofrestru a sefydlu
  • Ymholiad Ôl-raddedig
  • Newidiadau rhaglen ôl-raddedig
  • Cyflwyno Ein Myfyrwyr Ôl-Raddedig
  • Prosbectws Ôl-raddedig
Ymgeisio Diwrnod Agored Gofynnwch gwestiwn i ni
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Colegau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342